Math o gyfrwng | Siâp |
---|---|
Math | anallagmatic curve, Ribaucour curve, sinusoidal spiral, locws, analytic manifold, elíps, rose, hypersphere, curve of constant width, Zindler curve, generalised circle, Trychiad conig, geometric primitive, siâp geometrig |
Rhan o | sffêr, disk |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mewn geometreg Ewclidaidd, cylch yw'r set o bwyntiau mewn plân sydd at bellter penodol, y radiws, o rhyw bwynt penodol, y canolbwynt. Mae'n enghraifft o drawstoriad conig. Dywedir fod cylch yn gromlin caeedig syml; mae'n rhannu'r plân yn ddwy ran, yr allanol a'r mewnol. Weithiau, fe ddefnyddir y gair cylch i olygu'r arwynebedd mewnol, ac yna fe gelwir y cylch (yn ein hystyr ni) yn gylchedd, yn gylchyn, neu'n berimedr. Fel arfer, fodd bynnag, mae cylchedd a.y.b. yn cyfeirio at hyd y cylch, ac fe gelwir yr arwynebedd mewnol yn ddisg.