Enghraifft o'r canlynol | corff llywodraethu chwaraeon rhyngwladol |
---|---|
Math | sport association |
Dechrau/Sefydlu | 1884 |
Isgwmni/au | GAA Handball |
Pencadlys | Parc Croke |
Gwefan | http://www.gaa.ie/ |
Mudiad chwaraeon amatur yn Iwerddon yw'r Gymdeithas Athletau Gwyddelig (Gwyddeleg: Cumann Lúthchleas Gael, Saesneg: Gaelic Athletic Association) sy'n hyrwyddo'r campau Gwyddelig traddodiadol yn bennaf, sef hyrli, camógaíocht (camogie), pêl-droed Wyddelig, pêl-law a rownderi.
Mae'r Gymdeithas hefyd yn hyrwyddo cerddoriaeth a dawns Gwyddelig, a'r Iaith Wyddeleg. Y Gymdeithas yw'r mudiad fwyaf yn Iwerddon, gyda thua 800,000 o aelodau. Sefydlwyd hi yn 1884 gan Michael Cuisac. Dywedodd mai pwrpas y corff oedd i "hyrwyddo mewn unrhyw ffordd pob math o gampau oedd yn unigryw Wyddelig". Cafodd gefnogaeth Maurice Daven ac Esgob Cashel, Dr Thomas Croke. Roedd ganddi yn y blynyddoedd cynnar, berthynas agos â'r Land League oedd yn ymladd dros hawliau ffermwyr tenant yn Iwerddon.[1]
Y Gymdeithas sy'n berchen ar faes chwaraeon Parc Croke a dyna ble lleolir eu pencadlys.
Yn y flwyddyn 2014 roedd gan y sefydliad dros 500,000 o aelodau ledled y byd,[2] a datganodd gyfanswm refeniw o €96.1 miliwn yn 2022.[3] Mae Pwyllgor Rheoli Cystadlaethau (CCC) cyrff llywodraethu Cymdeithas Athletau Gaeleg (GAA) yn trefnu rhestr gemau Gaeleg o fewn cynghorau sir neu dalaith GAA.
Over 500,000 people were registered on the [membership] system in 2014