Enghraifft o'r canlynol | sefydliad rhynglywodraethol, sefydliad rhyngwladol |
---|---|
Idioleg | rhyngwladoliaeth |
Daeth i ben | 18 Ebrill 1946, 20 Ebrill 1946 |
Dechrau/Sefydlu | 1919 |
Lleoliad yr archif | La contemporaine |
Pennaeth y sefydliad | Secretary-General of the League of Nations |
Olynydd | Y Cenhedloedd Unedig |
Isgwmni/au | Women's Advisory Council, League of Nations, Permanent Court of International Justice, y Sefydliad Llafur Rhyngwladol |
Pencadlys | palais Wilson, Palace of Nations |
Gwladwriaeth | Y Swistir |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Corff cydwladol a grëwyd ym 1920 oedd Cynghrair y Cenhedloedd. Fe'i sefydlwyd yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf gyda'r bwriad o sefydlu heddwch yn y byd. Cyfarfu am y tro cyntaf ar 10 Ionawr 1920, yng Ngenefa yn y Swistir.[1]
Ymgorfforwyd 'Cyfamod Cynghrair y Cenhedloedd' (ei dogfen sefydlu) yn y cytundebau heddwch a wnaed ar ôl y Rhyfel Mawr, ond gwrthodai'r Unol Daleithiau dderbyn Cytundeb Versailles ac o ganlyniad cafodd ei diarddel o'r Gynghrair. Roedd hyn yn llesteirio gwaith y sefydliad o'r cychwyn cyntaf bron. Serch hynny, llwyddai'r Gynghrair i wneud gwaith pwysig yn datrys anghydfod, yn trefnu cyngresau rhyngwladol ar sawl pwnc ac yn cyflawni gwaith dyngarol.[2]
Fodd bynnag, methodd y Gynghrair a delio â'r sefyllfa ryngwladol a ddatblygai yn y tridegau, megis rhyfel Siapan yn Tsieina, yr Eidal yn Ethiopia ac yn bennaf oll achos yr Almaen, a dynnodd allan o'r Gynghrair ym 1933.
Cymerodd y Cenhedloedd Unedig le'r Cynghrair ar ôl yr Ail Ryfel Byd.