Cyngor Ewropeaidd

Cyngor Ewropeaidd
Enghraifft o'r canlynolinstitution of the European Union, gweithrediaeth, cyngor Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu9 Rhagfyr 1974 Edit this on Wikidata
Yn cynnwyspennaeth llywodraeth, Rhestr Llywyddion y Comisiwn Ewropeaidd, President of the European Council Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadPresident of the European Council Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadyr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
PencadlysEuropa building Edit this on Wikidata
Enw brodorolEuropean Council Edit this on Wikidata
Gwladwriaethyr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.consilium.europa.eu/en/, https://www.consilium.europa.eu/fr/, https://www.consilium.europa.eu/es/european-council/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Corff gwleidyddol uchaf yr Undeb Ewropeaidd yw'r Cyngor Ewropeaidd (y cyfeirir ato hefyd fel Uwch-gynhadledd Ewropeaidd), sy'n cyfarfod tua phedair gwaith y flwyddyn. Mae'n cynnwys penaethiaid y gwladwriaethau neu'r llywodraethau o aelod-wladwriaethau'r Undeb, ynghyd â Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd. Yn y gorffennol, cadeirwyd y cyfarfod gan yr aelod o'r aelod-wladwriaeth sy'n dal Llywyddiaeth yr Undeb Ewropeaidd. Yn 2009, creodd Cytundeb Lisbon llywydd parhaol. Herman Van Rompuy o Wlad Belg yw'r llywydd presennol.

Tra bod y Cyngor heb rymoedd gweithredol neu ddeddfwriaethol ffurfiol (corff yr Undeb yw ef, nid sefydliad), mae'n ymdrin â materion pwysig ac mae ei benderfyniadau yn cynrychioli'r prif ddylanwad mewn diffinio canllawiau gwleidyddol cyffredinol yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r Cyngor yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn o leiaf, yn yr adeilad Justus Lipsius ym Mrwsel fel arfer. Dylid gwahaniaethu rhwng y Cyngor hwn, Cyngor yr Undeb Ewropeaidd a Chyngor Ewrop.


Cyngor Ewropeaidd

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne