Cyngor Trent

Cyngor Trent
Sesiwn Cyngor Trent yn eglwys Santa Maria Maggiore, Trento, yn ystod 1633; paentiad gan Elia Naurizio (1589–1657)
Enghraifft o'r canlynolsynod Edit this on Wikidata
Label brodorolConcilio di Trento Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1545 Edit this on Wikidata
Daeth i ben21 Chwefror 1563 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganPumed Cyngor y Lateran Edit this on Wikidata
Olynwyd ganCyngor Cyntaf y Fatican Edit this on Wikidata
Enw brodorolConcilio di Trento Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Deunawfed Gyngor Eciwmenaidd yr Eglwys Gatholig, a alwyd gan y Pab Pawl III i wrthsefyll effeithiau'r Diwygiad Protestannaidd, oedd Cyngor Trent (15451547, 15511552, 15621563).

Fe'i cynhaliwyd dair gwaith rhwng 13 Rhagfyr 1545 a 4 Rhagfyr 1563 yn ninas Trent (Trento heddiw, yng ngogledd yr Eidal) fel ymateb gan yr Eglwys Gatholig i'r bygythiad i'w hathrawiaeth ddiwinyddol a'i hawdurdod eglwysig gan y Diwygiad Protestannaidd. Fe'i hystyrir yn un o'r cynghorau pwysicaf yn hanes yr Eglwys Gatholig. Ynddo gosodwyd allan yn eglur yr athrawiaeth Gatholig ar iachawdwriaeth, y sagrafen, a'r canon Beiblaidd awdurdodedig. Penderfynwyd cael canllawiau cydnabyddedig am weinyddu'r Offeren, yn bennaf trwy ddileu amrywiadau lleol: gelwir hyn yn "Offeren Trent" (Saesneg: Tridentine Mass, o Tridentum, enw Lladin Trent). Condemniwyd dysgeidiaeth Martin Luther.

Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyngor Trent

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne