Cynhadledd Yalta

Cynhadledd Yalta
Enghraifft o:uwchgynhadledd Edit this on Wikidata
GwladBaner UDA UDA
Baner Undeb Sofietaidd Undeb Sofietaidd
Baner Prydain Fawr Prydain Fawr
Dechreuwyd4 Chwefror 1945 Edit this on Wikidata
Daeth i ben11 Chwefror 1945 Edit this on Wikidata
Olynwyd ganCynhadledd Potsdam Edit this on Wikidata
LleoliadLivadia Palace Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethYr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
RhanbarthYalta Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
"Y Tri Mawr" yn eistedd gyda'i gilydd yn Yalta. O'r chwith i'r dde: Churchill, Roosevelt, Stalin.

Cynhadledd gan y Cynghreiriaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd Cynhadledd Yalta a gynhelwyd yn y cyfnod 4–11 Chwefror 1945 yn Yalta yn y Crimea. Yno bu cwrdd tri prif arweinydd y Cynghreiriaid: Franklin D. Roosevelt, Arlywydd yr Unol Daleithiau; Winston Churchill, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig; a Joseff Stalin, Prif Arweinydd yr Undeb Sofietaidd. Nod y gynhadledd oedd i gynllunio gorchfygiad a meddiannaeth yr Almaen Natsïaidd a dyfodol Ewrop wedi'r rhyfel.

Trafododd y Tri Mawr, ymhlith pethau eraill, y gweithrediadau milwrol olaf yn erbyn yr Almaen yn Ewrop a'i thynged ôl-rhyfel, mater Gwlad Pwyl a'i system wleidyddol ac economaidd ôl-rhyfel, achosion troseddwyr rhyfel y Natsïaid, ac ymwneud yr Undeb Sofietaidd ag ymladd yn erbyn Ymerodraeth Japan gan gynnwys meysydd y gân yn Asia a'r Môr Tawel.

Rhagflaenwyd Cynhadledd Yalta gan Gynhadledd Tehran (28 Tachwedd - 2 Rhagfyr 1943) 1943 gyda'r un cyfranogwyr. Y Gynhadledd olaf o'r natur yma oedd Cynhadledd Potsdam) 17 Gorffennaf - 2 Awst 1945) pan nodwyd prif fframwaith ffiniau mewnol ac allanol yr Almaen a'i thaliadau ac ymdriniaeth wedi iddi golli'r Rhyfel.[1] Erbyn Potsdam cymerodd yr yr Unol Daleithiau Arlywydd newydd, Harry Truman le diweddar, Franklin D. Roosevelt ac roedd gan Brydain Brif Weinidog hanner ffordd drwy'r Gynhadledd, Clement Attlee, yn lle Winston Churchill. Nodwyd y gynhadledd mewn dogfennau cyfrinachol gyda'r enw cod "Argonaut".

  1. Melvyn Leffler, Cambridge History of the Cold War, Volume 1 (Cambridge University Press, 2012), p. 175

Cynhadledd Yalta

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne