Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Ffurfir y cywydd deuair hirion o gwpledi sy'n odli, saith sillaf i bob llinell, a phob llinell mewn cynghanedd. Dyma'r ffurf fwyaf cyffredin o lawer ar y cywydd. Rhaid i un brifodl fod yn acennog a'r llall yn ddiacen, er nad oes ots ym mha drefn y gwneir hynny.
Dyma enghraifft gan Waldo Williams:
Un o'r mesurau pwysicaf, os nad y pwysicaf oll, yw'r cywydd deuair hirion.[1]
O'r traethodl y datblygodd y cywydd, mesur a fu'n boblogaidd gan y beirdd israddol a elwir yn Glêr. Ystyrir Dafydd ap Gwilym, bardd a ganai yn y 14g, yn ffigwr canolog a phwysig yn natblygiad y cywydd ac yn rhannol gyfrifol am ddyrchafu ei statws.[2]
Os oes mwy neu lai o sillafau mewn llinell, dywedir fod tor mesur ynddo a chaiff ei gyfrif yn fai. Ni chaniateir cynghanedd lusg yn ail linell y cwpled, a gelwir y bai hwn yn "llysiant llusg". Fel arfer ceir amrywiaeth yn y brifodl, ond mae llawer o feirdd yn dewis canu cywyddau unodl.