D. W. Griffith | |
---|---|
Ganwyd | David Llewelyn Wark Griffith 22 Ionawr 1875 La Grange |
Bu farw | 23 Gorffennaf 1948 Hollywood |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, actor, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, golygydd ffilm, cynhyrchydd gweithredol, cyfarwyddwr |
Adnabyddus am | The Birth of a Nation, Intolerance |
Tad | Jacob Wark Griffith |
Priod | Linda Arvidson |
Gwobr/au | Gwobr Anrhydeddus yr Academi, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Cyfarwyddwr ffilm o'r Unol Daleithiau oedd David Llewelyn Wark Griffith (22 Ionawr 1875 - 23 Gorffennaf 1948[1]), a anwyd yn La Grange, Kentucky, UDA[2][3]. Roedd yn fab i Gymro[4] a chyn-swyddog yn y fyddin y Confederate (Y Cyrnol "Roaring Jake" Griffith) a fu farw (yn 1885) o glwyfau a gafodd yn ystod Rhyfel Cartref America pan oedd Griffith yn 10 oed. Fe'i hystyriwyd yn un o dadau'r ffilm naratif[5].
Yn ei ugeiniau cychwynnodd gyrfa, aflwyddiannus braidd, ar y llwyfan. Yn 1907, yn dilyn methiant ei gynhyrchiad A Fool and a Girl, fe drodd ei olygon at Hollywood, gan ysgrifennu ag actio i gwmnïoedd Edison a Biograph. Yn 1908 cafodd swydd fel cynhyrchydd gan Biograph a cychwynnodd ei yrfa go iawn. Hyd at 1913 cynhyrchodd dros 400 o ffilmiau i'r cwmni - gan orffen gyda Judith of Bethulia (ffilm 4 rîl a rhyddhawyd yn 1914). Yn ystod y cyfnod hwn datblygodd ei grefft yn aruthrol - yn arbennig agweddau golygu a pherfformio. Daeth yn enwog am olygu crefftus yr "achub munud olaf". Cafodd yr agweddau yma dylanwad mawr ar y diwydiant - gan wneud Biograph yn flaengar iawn[5].
Yn 1913 gadawodd Griffith Biograph i dorri ei gŵys ei hun. Ar ôl cyfnod byr o arbrofi, cynhyrchodd The Birth of a Nation (a rhyddhawyd yn Ionawr 1915), a sicrhaodd ei le yn y llyfrau hanes. Hon oedd y ffilm hiraf a mwyaf cymhleth erioed ar y pryd (ryw 3 awr o hyd dros 12 rîl). Seiliwyd y naratif (sy'n cynnwys elfennau hanesyddol a dychmygol am Ryfel Cartref America a'r cyfnod yn syth ar ei ôl) ar nofel a drama gan Thomas Dixon Jr., o'r enw The Clansman. (The Clansman oedd enw gwreiddiol y ffilm, hefyd.) Fel mae'r enw hwn yn awgrymu, mae gryn ystyriaeth garedig o'r Klu Klux Klan yn y ffilm. Yn wir fe atgyfnerthwyd y gymuned hiliol honno yn sylweddol gan ei ymddangosiad. Oherwydd hyn, erys y ffilm yn un dadleuol iawn (fel y bu ar y pryd) - ac, o'r herwydd, yn hanesyddol. (Fe'i dyfarnwyd o bwys hanes diwylliant America gan Lyfrgell Cyngres yr Unol Daleithiau yn 1992.) Am weddill ei yrfa bu Griffith yn amddiffyn a gwneud yn iawn am yr agwedd hon o'i gampwaith technegol. Y cam gyntaf oedd ei ffilm nesaf, Intolerance (1916), a llwyddodd i fod yn hyd yn oed yn fwy mawreddog ym mhob ffordd. Fel yr awgrymir gan y teitl, roedd hwn yn ymgais uniongyrchol gan Griffith i ateb yr honiad ei fod yn ddyn hiliol. Yn y drydedd o'i ffilmiau gorau, Broken Blossoms (1919), aeth Griffith un cam ymhellach i ateb y feirniadaeth. Fe sicrhaodd mai o Tsieina y daw cymeriad positif y ffilm (Cheng Huan). Er dyn gwyn (Richard Barthelmess) a'i hactiodd ![5].
Griffiths, ynghyd â Charlie Chaplin, Mary Pickford a Douglas Fairbanks, sefydlodd stiwdio United Artists yn 1919[6].
Er i Griffith dal i gynhyrchu ffilmiau am ddegawd arall (roedd ei ddau olaf yn "talkies"), roedd ei oes aur ar ben. Ni lwyddodd i symud gyda'r oes - roedd ei galon o hyd ym myd sentimental y 19 ganrif. Collodd arian, ac ar ôl Orphans of the Storm (1921) nid oedd yn medru fforddio cyflogi ei "protege" Lillian Gish[7] (a gafodd gyrfa ddisglair iawn i'r 1950au), hyd yn oed[5].
Roedd Griffith yn aelod o’r Seiri Rhydd[8]. Priododd Linda Arvidson yn 1906 (ysgarwyd 1936) ac Evelyn Baldwin yn 1936 (ysgarwyd 1947)[3].
Methodd gyrfa Griffith fel cynhyrchydd goroesi methiant The Struggle (1931) ac yn fuan fe'i hanghofiwyd gan ei gynulleidfaoedd[5]. Bu farw'n unig. Er i'w gyd-weithwyr ym myd y ffilm ei barchu am ei gyfraniad allweddol i ddatblygiad y ffilm, ychydig iawn a ddaeth i dalu gwrogaeth iddo mewn cyfarfod coffa yn Hollywood ar ôl ei farw yno ar Orffennaf 23, 1948. Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwyd Methodisdaidd Mount Tabor yn Centerfield, Kentucky[9].
|access-date=
requires |url=
(help)
|access-date=, |date=
(help)