Roedd y Daciaid (Lladin: Daci, Rwmaneg: Daci, Groeg: Daci; Δάκοι,[2] yna Dákai Δάκαι) yn bobl Indo-Ewropeaidd a oedd yn byw yn Dacia (yn fras, Rwmania a Moldofa gyfoes) a rhannau o Moesia. Mae'r sôn gyntaf am bobl Dacia yn dyddio o oes y Rhufeiniaid. Trodd y Daciaid yn gangen o'r Getae, felly roeddent hefyd yn bobl Thraciaid oedd yn byw yn nhalaith Thracia yn Ymerodraeth Rhufeinig. Yngenir yr enw gyadg 'e' feddal yn y Saesneg (Dasia) ond byddai'r 'c' galed yn gywirach yn y Gymraeg ac yn agosach at yr ynganiad Ladin a Groeg.
Roedd y Daciaid yn byw yn bennaf yn Transylfania a gorllewin Wallachia. Yn Nwyrain Wallachia a'r Dobruja, roedd y Geten cysylltiedig yn byw. Ym Moldofa roedd y Carpatiaid cysylltiedig hefyd (mae mynyddoedd y Carpatiau wedi eu henwi ar eu hôl), a ddihangodd rhag cael eu goresgyn gan y Rhufeiniaid. Mae'r Rwmaniaid cyfoes yn ystyried eu hunain fel olyddion y Daciaid.