Gweriniaeth Corea 대한민국 (Coreeg) Daehan Minguk ((RR) | |
Baner | |
Arwyddair | Dychmyga dy Gorea |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwladwriaeth gyfansoddiadol, gwlad |
Prifddinas | Seoul |
Poblogaeth | 51,466,201 |
Sefydlwyd | 1 Mawrth 1919 (oddi wrth Japan) |
Anthem | Aegwca |
Pennaeth llywodraeth | Yoon Suk Yeol |
Cylchfa amser | Amser Safonol Corea, UTC+09:00, Asia/Seoul |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Coreeg, Iaith Arwyddo Coreeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dwyrain Asia, MIKTA |
Arwynebedd | 100,295 ±1 km² |
Gerllaw | Y Môr Melyn, Môr y De, Môr Japan, Môr Dwyrain Tsieina |
Yn ffinio gyda | Gogledd Corea, Gweriniaeth Pobl Tsieina, Japan |
Cyfesurynnau | 36°N 128°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth De Corea |
Corff deddfwriaethol | Y Cynulliad Cenedlaethol |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd De Corea |
Pennaeth y wladwriaeth | Yoon Suk Yeol |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd De Corea |
Pennaeth y Llywodraeth | Yoon Suk Yeol |
Crefydd/Enwad | Protestaniaeth, Bwdhaeth, Catholigiaeth |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $1,810,956 million, $1,665,246 million |
Arian | won, Mun Corea |
Cyfartaledd plant | 1.09 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.925 |
Gwlad yn nwyrain Asia yw Gweriniaeth Corea neu De Corea, wedi'i lleoli ar hanner deheuol Penrhyn Corea. Mae ganddi ffin tir â Gogledd Corea. Mae tua 25 miliwn o bobl, hanner poblogaeth o 51 miliwn y wlad yn byw o fewn ardal Seoul, prifddinas a dinas fwyaf y wlad.
Roedd pobl yn byw ym Mhenrhyn Corea mor gynnar â'r cyfnod Paleolithig Isaf (Hen Oes y Cerrig Isaf). Nodwyd ei deyrnas gyntaf ( sef y Gojoseon) yng nghofnodion Tsieineaidd yn gynnar yn y 7g CC. Yn dilyn uno Tair Teyrnas Corea yn Silla a Balhae ar ddiwedd y 7g, rheolwyd Corea gan linach Goryeo (918–1392) a llinach Joseon (1392-1897). Atodwyd Ymerodraeth Corea olynol yn 1910 i Ymerodraeth Japan. Daeth rheolaeth Japan yng Nghorea i ben yn dilyn yr ildiad yn yr Ail Ryfel Byd, ac ar ôl hynny rhannwyd Corea yn ddau barth ; parth gogleddol a feddiannwyd gan yr Undeb Sofietaidd a pharth deheuol a feddiannwyd gan yr Unol Daleithiau . Ar ôl i'r trafodaethau ar ailuno fethu, daeth yr olaf yn Weriniaeth Corea ym mis Awst 1948 tra daeth y cyntaf yn Ogledd Corea.
Ym 1950, ymladdwyd Rhyfel Corea, a welodd ymyrraeth helaeth gan y Cenhedloedd Unedig (drwy'r Unol Daleithiau) a oedd yn cefnogi'r De, tra derbyniodd y Gogledd gefnogaeth gan Tsieina a chan yr Undeb Sofietaidd. Ar ôl diwedd y rhyfel ym 1953, dechreuodd economi’r wlad godi, a chafwyd y cynnydd cyflymaf mewn cynnyrch mewnwladol crynswth (CMC) ar gyfartaledd yn y byd rhwng 1980 a 1990. Arweiniodd Brwydr June at ddiwedd rheolaeth awdurdodaidd ym 1987 ac erbyn hynny roedd y wlad yn cael ei hystyried ymhlith y democratiaethau mwyaf datblygedig yn Asia, gyda'r lefel uchaf o ryddid i'r wasg. Fodd bynnag, mae llygredd a sgandalau gwleidyddol wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf; mae pob un o’r pedwar cyn-lywydd byw yn Ne Corea wedi’u dedfrydu i’r carchar am amrywiol droseddau yn amrywio o gam-drin awdurdod i lwgrwobrwyo ac ysbeilio.[6]
Mae De Corea yn wlad ddatblygedig ac fe'i graddolwyd fel y seithfed wlad uchaf ar y Mynegai Datblygiad Dynol (HDI) yn rhanbarth Asia ac Ynysoedd y De. Mae ei heconomi wedi'i graddio fel y degfed fwyaf yn y byd yn ôl CMC enwol. Mae ei ddinasyddion yn mwynhau un o fandiau mwyaf llydan y rhyngrwyd Rhyngrwyd (a'r cyflymaf) yn y byd a'r rhwydwaith rheilffyrdd cyflymaf hefyd. Y wlad yw'r 5ed allforiwr mwyaf y byd a'r wythfed mewnforiwr mwyaf. De Corea oedd 7fed allyrrydd mwyaf o garbon yn y byd a'r 5ed allyrrydd mwyaf y pen.
Drwy'r 21g, mae De Corea wedi bod yn enwog am ei diwylliant pop dylanwadol, yn enwedig mewn cerddoriaeth K-pop, dramâu teledu a sinema, ffenomen y cyfeirir ati fel Wave Corea.[7][8][9][10] Mae'n aelod o Bwyllgor Cymorth Datblygu'r OECD, y G20, a Chlwb Paris.