De Gwlad yr Haf

De Gwlad yr Haf
Mathardal an-fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolGwlad yr Haf
PrifddinasYeovil Edit this on Wikidata
Poblogaeth167,861 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwlad yr Haf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd959.0402 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.03°N 2.77°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE07000189 Edit this on Wikidata
Cod postBA7-10, BA20-22 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of South Somerset District Council Edit this on Wikidata
Map

Ardal an-fetropolitan yn sir seremonïol Gwlad yr Haf, De-orllewin Lloegr, yw De Gwlad yr Haf (Saesneg: South Somerset).

Mae gan yr ardal arwynebedd o 959 km², gyda 168,345 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio â Gorllewin Gwlad yr Haf a Taunton i'r gogledd-orllewin, ac Ardal Sedgemoor ac Ardal Mendip i'r gogledd, yn ogystal â siroedd Wiltshire i'r dwyrain, Dorset i'r de-ddwyrain, a Dyfnaint i'r de-orllewin.

De Gwlad yr Haf yng Ngwlad yr Haf

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol, ei henw oedd "Ardal Yeovil"; fe'i hailenwyd ym 1985.

Rhennir yr ardal yn 121 o blwyfi sifil, heb ardaloedd di-blwyf. Mae ei phencadlys yn nhref Yeovil. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Bruton, Castle Cary, Crewkerne, Chard, Ilminster, Langport, Somerton, South Petherton a Wincanton.

  1. City Population; adalwyd 3 Tachwedd 2020

De Gwlad yr Haf

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne