Desmond Llewelyn | |
---|---|
Ganwyd | 12 Medi 1914 Casnewydd |
Bu farw | 19 Rhagfyr 1999 Dwyrain Sussex |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, actor teledu |
llofnod | |
Roedd Desmond Wilkinson Llewelyn (12 Medi 1914 – 19 Rhagfyr 1999) yn actor o'r Betws ger Casnewydd.
Mae'n fwyaf enwog am ei ran fel y cymeriad "Q" ym mhob ffilm James Bond rhwng 1963 a 1999 (heblaw am Live and Let Die ym 1973); cyfanswm o 17 gwaith.[1][2]
Roedd yn fab i Mia (née Wilkinson) ac Ivor Llewelyn,[3] a oedd yn löwr ac yn beiriannydd yn y lofa lleol. Bu Desmond Llewelyn farw mewn damwain car ger pentref Berwick, Dwyrain Sussex, yn 85 oed.