Dewi Sant | |
---|---|
Ganwyd | 512 Sir Benfro |
Bu farw | 589 Tyddewi |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | offeiriad Catholig, esgob Catholig |
Dydd gŵyl | 1 Mawrth |
Tad | Sant ap Ceredig |
Mam | Non |
Dewi Sant (bl. 6g; bu farw yn 589 yn ôl Rhigyfarch[1]) yw nawddsant Cymru. Ni wyddom lawer amdano ond mae'n eitha sicr iddo fyw yng Nghymru a'i fod yn chwarter Cymro o leiaf; yn ôl Rhigyfarch, Non oedd ei fam, a dreisiwyd gan Sant - mab pennaeth Ceredigion.[2] Dethlir Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth. Nodir yn y Fuchedd Gymraeg Llyfr Ancr Llanddewibrefi (Llyfrgell Bodley, Prifysgol Rhydychen) ei bregeth olaf, lle dywedodd, "Arglwyddi, frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a chedwch eich ffydd a'ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf i."