Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Lee Tamahori |
Cynhyrchydd | Barbara Broccoli Michael G. Wilson Anthony Waye |
Ysgrifennwr | Neal Purvis Robert Wade |
Addaswr | Neal Purvis Robert Wade |
Serennu | Pierce Brosnan Halle Berry Will Yun Lee Toby Stephens Rosamund Pike Rick Yune Judi Dench |
Cerddoriaeth | David Arnold |
Prif thema | Die Another Day |
Cyfansoddwr y thema | Madonna Mirwais Ahmadzaï |
Perfformiwr y thema | Madonna |
Sinematograffeg | David Tattersall |
Golygydd | Christian Wagner |
Dylunio | |
Dosbarthydd | Sinemau UDA a DVD/Fideo Byd eang Metro-Goldwyn-Mayer Sinemau Byd eang 20th Century Fox |
Dyddiad rhyddhau | 22 Tachwedd 2002 |
Amser rhedeg | 133 munud |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Cyllideb | $142,000,000 (UDA) |
Refeniw gros | $431,971,116 |
Rhagflaenydd | The World Is Not Enough (1999) |
Olynydd | Casino Royale (2006) |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Ugeinfed ffilm yn y gyfres James Bond yw Die Another Day (2002), a'r bedwaredd (a'r un olaf) i serennu Pierce Brosnan fel yr asiant cudd MI6, James Bond. Ar ddechrau'r ffilm, gwelir Bond yn arwain cynllwyn cudd yng Ngogledd Corea. Caiff ei ddarganfod ac ar ôl iddo ladd Cadfridog o Ogledd Corea, caiff ei ddal a'i garcharu. Flwyddyn yn ddiweddarach, caiff ei ryddhau yn gyfnewid am garcharor arall ac mae'n dilyn trywydd o gliwiau er mwyn darganfod pwy a'i fradychodd. Dysga am fwriadau'r miliwnydd Gustav Graves. Dilyna Bond y Cadfridog er mwyn ei atal rhag defnyddio lloeren er mwyn ail-gynnau'r rhyfel rhwng Gogledd a De Corea.