Math o gyfrwng | schism from the Catholic Church |
---|---|
Rhan o | y Diwygiad Protestannaidd |
Sylfaenydd | Harri VIII |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Digwyddodd Diwygiad Lloegr yn ystod yr 16eg ganrif. Newidiwyd crefydd swyddogol Lloegr oherwydd y Diwygiad Protestannaidd Seisnig pan dorrodd Eglwys Loegr i ffwrdd oddi wrth awdurdod y Pab a’r Eglwys Gatholig Rufeinig. Roedd y datblygiadau hyn yn gysylltiedig hefyd â’r Diwygiad Protestannaidd oedd yn digwydd yn Ewrop ar y pryd. Roedd y Diwygiad Protestannaidd yn ddatblygiad gwleidyddol a chrefyddol a effeithiodd ar Gristnogaeth drwy orllewin a chanolbarth Ewrop. Roedd nifer o resymau pam datblygodd y diwygiad - er enghraifft, dyfeisio'r wasg argraffu, cylchrediad mwy eang y Beibl a ffyrdd newydd o drosglwyddo gwybodaeth a syniadau newydd ymysg pobl ddysgedig, sef y dosbarthiadau canol ac uwch a darllenwyr yn gyffredinol. Roedd y camau gwahanol a ddatblygodd fel rhan o Ddiwygiad Lloegr, oedd hefyd yn effeithio Cymru a Lloegr, yn cael eu gyrru’n bennaf gan newidiadau ym mholisïau’r Llywodraeth, ac o ganlyniad roedd yn rhaid i'r farn gyhoeddus ymdopi â’r newidiadau hynny.[1][2]
Achoswyd Diwygiad Lloegr oherwydd rhesymau gwleidyddol yn hytrach na rhai diwinyddol. Roedd Harri VIII eisiau priodi Anne Boleyn, ond cyn gwneud hynny roedd yn rhaid iddo ysgaru ei wraig gyntaf, Catrin o Aragon, ac arweiniodd hynny at yr angen i dorri'n rhydd o Eglwys Rufain. Gwnaed y cais cyntaf i'r Pab, Clement VII, i ddiddymu’r briodas yn 1527, ond bu’n rhaid i Harri aros tan 1534 cyn iddo lwyddo. Er hynny, roedd y gwahaniaethau gwleidyddol rhwng Rhufain a Lloegr wedi caniatáu i'r bwlch diwinyddol rhwng y ddau gynyddu hefyd. Tan y toriad â Rhufain, y Pab a chynghorau cyffredinol yr Eglwys oedd yn penderfynu ar ddogma a daliadau diwinyddol Eglwys Loegr. Rheolwyd cyfraith yr Eglwys gan gyfraith eglwysig (canon law) gyda’r awdurdod terfynol yn nwylo Rhufain. Talwyd trethi eglwysig yn syth i Rufain, a’r Pab oedd â’r gair olaf wrth benodi esgobion.[3]
Cyflawnwyd y toriad gyda Rhufain drwy gyfrwng nifer o ddeddfau Seneddol a basiwyd rhwng 1532 a 1534. Yn eu plith roedd Deddf Goruchafiaeth 1534 a oedd yn datgan mai Harri VIII oedd ‘Pen Goruchaf Eglwys Loegr ar y ddaear’.[4] Golygai hyn mai Brenin neu Frenhines Lloegr oedd yr awdurdod uchaf ar faterion eglwysig o hynny ymlaen. Collodd y Pab yr incwm oedd yn deillio o diroedd yr eglwys a chollodd yr hawl i awdurdodi penodiadau esgobaethol. Yn ystod teyrnasiad Edward VI, mab Harri VIII, newidiwyd diwinyddiaeth a litwrgi Eglwys Loegr i fod yn llawer mwy Protestannaidd ei gynnwys a’i ddelwedd. Gwnaed y newidiadau hyn yn bennaf o dan arolygiaeth yr Archesgob diwygiadol, Thomas Cranmer. Yn ystod teyrnasiad Mari I, cafodd y newidiadau hyn eu dadwneud, ac unwaith eto daeth Eglwys Loegr yn ôl dan awdurdod Rhufain. Ailgyflwynwyd y ffydd Brotestannaidd gan Elisabeth ond mewn ffurf mwy cymedrol ei natur.
Bu strwythur a diwinyddiaeth yr eglwys yn destun trafod ffyrnig dros nifer o genedlaethau. Bu crefydd yn elfen a achosodd wrthdaro adeg y Rhyfel Cartref rhwng 1642 hyd 1649. Ond lleihaodd natur ymfflamychol crefydd fel pwnc llosg yn sgil gwaredu Iago II, sef y brenin Catholig diwethaf ar orsedd Lloegr, wrth i’r Senedd gyflogi Wiliam o Oren a Mari ei wraig i reoli ar y cyd drwy gyfrwng Mesur Hawliau Seisnig 1688 (sef y ‘Chwyldro Gogoneddus’). Yn sgil y newidiadau hyn, datblygodd Eglwys Sefydledig yn ogystal â nifer o gapeli anghydffurfiol. Dioddefodd aelodau’r capeli lawer o rwystrau sifil nes i’r rhwystrau hynny gael eu diddymu flynyddoedd yn ddiweddarach. Parhaodd dylanwad yr Eglwys Gatholig ar Eglwys Lloegr i fod yn destun dadleuol am flynyddoedd lawer. Parhaodd lleiafrif sylweddol (er bod eu niferoedd yn lleihau'n raddol) i fod yn aelodau o’r Eglwys Gatholig yn Lloegr rhwng yr 16eg a dechrau'r 19eg ganrif. Roedd bodolaeth yr Eglwys Gatholig yn anghyfreithlon yn Lloegr tan y pasiwyd Deddf Rhyddfreinio’r Pabyddion yn 1829.[5]