Doctor Who | |
---|---|
Cerdyn teitlau Doctor Who (2018-) | |
Genre | Drama / Ffuglen wyddonol |
Crëwyd gan | Sydney Newman C. E. Webber Donald Wilson |
Serennu | Ers 2022 - David Tennant |
Cyfansoddwr y thema | Ron Grainer |
Thema'r dechrau | Cerddoriaeth thema Doctor Who |
Cyfansoddwr/wyr | Amrywiol (ers 2018, Segun Akinola) |
Gwlad/gwladwriaeth | Y Deyrnas Unedig |
Iaith/ieithoedd | Saesneg |
Nifer cyfresi | 37 |
Nifer penodau | 871 (hyd Hydref 2022) |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 25 mun. (1963–1984, 1986–1989) 45 mun. (1985, 2005–2017) 50 mun. (2018) |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | BBC One |
Darllediad gwreiddiol | Cyfres glasurol: 23 Tachwedd 1963 – 6 Rhagfyr 1989 Ffilm deledu: 12 Mai 1996 Cyfres presennol: 26 Mawrth 2005 – presennol |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol | |
Proffil IMDb |
Rhaglen deledu ffuglen wyddonol ydy Doctor Who ("Doctor Pwy") a gynhyrchir gan y BBC yng Nghymru. Mae'r rhaglen yn ymwneud ag anturiaethau Arglwydd Amser (Time Lord) sy'n dwyn yr enw "The Doctor". Mae'r bod arallfydol hwn, sy'n ymddangos fel bod dynol, yn teithio o gwmpas y gofod mewn llong ofod sy'n ymddangos o'r tu allan fel blwch ffôn heddlu'r 1960au, a elwir y TARDIS (acronym am Time and Relative Dimension in Space). Mae'r TARDIS yn enfawr y tu fewn, a cheisir gwthio ffiniau gwyddoniaeth yn y rhaglen. Gyda'i gynorthwyydd, mae'r Doctor yn wynebu nifer o elynion arallfydol ac yn cynorthwyo pobl gan geisio ateb drwg gyda da. Fel pob Arglwydd Amser, os yw'r Doctor ar fin marw, gall atgyfodi drwy drawsnewid i berson arall, gyda'r un cof ac enaid. Mae'r ddyfais yma'n caniatau parhad y gyfres drwy gastio actorion newydd i'r brif ran.
Rhestrwyd y rhaglen yn y "Guinness World Records" fel y rhaglen ffug wyddonol sydd wedi bod ar y teledu am yr amser hiraf, a hynny drwy'r byd. Erbyn 2018 roedd 13 actor wedi chwarae'r brif rhan fel y Doctor, gyda'r 13eg Doctor wedi ei chwarae gan fenyw am y tro cyntaf.