Mae economi gylchol[1] yn fodel o gynhyrchu a defnyddio gwrthrychau mor hir a phosibl: wrth rannu, prydlesu, ailddefnyddio, atgyweirio, adnewyddu ac ailgylchu deunyddiau a chynhyrchion.[2] Nod yr economi gylchol, felly, yw mynd i'r afael â heriau byd-eang fel newid hinsawdd, colli bioamrywiaeth, gwastraff a llygredd trwy bwysleisio gweithredu tair egwyddor sylfaenol y model. Y tair egwyddor sydd eu hangen ar gyfer trawsnewid i economi gylchol yw:
dileu gwastraff a llygredd,
cylchredeg cynhyrchion a deunyddiau, ac
adfywio natur.
Mae'r economi gylchol (creu → defnyddio → trwsio → ailddefnyddio) yn gwbwl groes i'r economi llinol draddodiadol (creu → defnyddio → taflu).[3][4] Astudiwyd y cysyniad o'r economi gylchol yn helaeth yn y byd academaidd, yn y byd busnes ac o fewn llywodraeth yn y 2000 a'r 2010au. Mae economi gylchol wedi dod yn syniad poblogaidd gan ei fod yn helpu i leihau allyriadau cemegol i'r amgylchedd, yn lleihau'r defnydd o ddeunyddiau crai, yn agor marchnadoedd newydd (megis ailgylchu) ac yn bennaf, yn cynyddu cynaliadwyedd defnyddiau a gwella effeithlonrwydd adnoddau.[5][6]
Ar lefel llywodraeth, mae'r economi gylchol yn cael ei ystyried yn fodd o frwydro yn erbyn newid hinsawdd yn ogystal â hwyluso twf hirdymor.[7] Gall economi gylchol gysylltu cwmnïau a phobl gydag adnoddau yn ddaearyddol.[8] Yn ei hegwyddor graidd, mae Senedd Ewrop yn diffinio economi gylchol fel, “model cynhyrchu a defnyddio, sy'n cynnwys rhannu, prydlesu, ailddefnyddio, atgyweirio, adnewyddu ac ailgylchu deunyddiau a chynhyrchion presennol cymaint ag y gellir. Yn y modd hwn, mae cylch bywyd cynhyrchion yn cael ei ymestyn.”[2]
Nod yr economi gylchol yw cadw cynhyrchion, deunyddiau, offer a seilwaith am gyfnod hwy, gan wella cynhyrchiant yr adnoddau hyn.[9] Mae Sefydliad Ellen MacArthur (EMF) yn diffinio'r economi gylchol fel economi ddiwydiannol sy'n adferol neu'n adfywiol.[10][11][12]
↑Shpak, Nestor; Kuzmin, Oleh; Melnyk, Olga; Ruda, Mariana; Sroka, Włodzimierz (August 2020). "Implementation of a Circular Economy in Ukraine: The Context of European Integration" (yn en). Resources9 (8): 96. doi:10.3390/resources9080096. ISSN2079-9276.
↑Invernizzi, Diletta Colette; Locatelli, Giorgio; Velenturf, Anne; Love, Peter ED.; Purnell, Phil; Brookes, Naomi J. (September 2020). "Developing policies for the end-of-life of energy infrastructure: Coming to terms with the challenges of decommissioning". Energy Policy144: 111677. doi:10.1016/j.enpol.2020.111677.