Edmwnd Tudur | |
---|---|
Ganwyd | c. 1430 Much Hadham Hall |
Bu farw | 3 Tachwedd 1456, 1 Tachwedd 1456 Caerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pendefig |
Swydd | Aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Tad | Owain Tudur |
Mam | Catrin o Valois |
Priod | Margaret Beaufort |
Plant | Harri VII |
Llinach | House of Valois, Tuduriaid |
Roedd Edmwnd Tudur (Edmund Tudor) (11 Mehefin 1431 – 3 Tachwedd 1456) yn un o Duduriaid Penmynydd, yn dad i Harri VII, brenin Lloegr ac yn fab i Catrin o Valois ac Owain Tudur.
Roedd Edmwnd yn hanner brawd i Harri VI, brenin Lloegr. Fe'i magwyd gan Katherine de la Pole a chymerodd Harri ddiddordeb ym magwraeth Edmwnd, gan roi teitl a thiroedd iddo wedi iddo ddod i oed. Gwnaed Edmund a'i frawd, Jasper, yn gynghorwyr i'r Brenin, gan mai hwy oedd ei berthnasau gwaed agosaf. Ar 23 Tachwedd 1452 fe'i gwnaed yn Iarll Richmond a'i frawd Siasbar yn Iarll Penfro. Yn 1455 priododd Margaret Beaufort pan oedd hi'n ddeuddeg oed, a phan oedd yn 14 oed ganed un mab iddynt: Harri Tudur (Harri VII yn ddiweddarach), dri mis wedi marwolaeth Edmwnd.
Ganwyd Edmwnd Tudur ym mhlasty Much Hadham, Swydd Hertford. Yn 1436, ymneilltuodd ei fam i Abaty Bermondsey ble y bu farw yn 1437. Magwyd ef a'i frawd Jasper, felly, gan Katherine de la Pole, Prif Leian Barking, a buont gyda hi tan 1442 pan danfonwyd hwy i lys Harri VI, brenin Lloegr i'w haddysgu.[1] Cafodd Edmwnd aros yn y Llys[1]. Ar 30 Ionawr 1452 cafodd ei wysio i'r Llywodraeth fel Iarll Richmond ac yna fel Uwch Iarll ar 6 Mawrth. Yr un pryd gwnaed Jasper yn Iarll Penfro. Cyhoeddodd y Llywodaeth ef yn fab cyfreithlon yn 1453 a rhoddwyd iddo gryn gyfoeth gan y brenin.