Enwad ymneilltuol yw Eglwys Fethodistaidd Prydain Fawr, sy’n fwy adnabyddus fel y Methodistaid Wesleaidd neu y Wesleaid. Drwy Wledydd Prydain mae gan yr enwad tua 330,000 o aelodau a 6,000 o eglwysi.
Datblygodd Methodistiaeth fel symudiad o fewn yr Eglwys Anglicanaidd yn ystod y 18g. Datblygodd Methodistiaeth Wesleaidd o bregethu John Wesley, oedd yn offeiriad yn Eglwys Loegr.Bu nifer o ymraniadau yn ystod y 19g, ond yn raddol ad-unwyd y rhain yn rhan gyntaf yr 20g. Ffurfiwyd yr Eglwys Fethodistaidd bresennol yn 1932, pan ddaeth y tri enwad mwyaf at ei gilydd.