Math | eglwys |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Amgueddfa Werin Cymru |
Lleoliad | Site of St Teilo's Old Parish Church, Amgueddfa Werin Cymru |
Sir | Sain Ffagan |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.49°N 3.28°W |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Cysegrwyd i | Teilo |
Manylion | |
Eglwys ganoloesol wedi ei chysegru i Sant Teilo a adeiladwyd yn wreiddiol ar orlifdir Afon Llwchwr ger Pontarddulais yw Eglwys Sant Teilo. Ym 1985, penderfynodd yr Eglwys yng Nghymru ac Amgueddfa Werin Cymru weithio ar y cyd i'w symud a'i hail-adeiladu ar safle'r Amgueddfa. Yno mae'n sefyll heddiw, wedi'i haddurno fel yr edrychai ym 1520. Defnyddiwyd technegau, deunyddiau a chyfarpar traddodiadol i ail adeiladu'r eglwys e.e. mortar calch, paent naturiol o fineralau a phren derw wedi'i dorri a llaw.
Mae'r eglwys yn ymddangos gyntaf mewn cofnodion oddeutu dechrau'r 12ed ganrif - sy'n disgrifio eglwys o un siambr garreg ar lannau'r Llwchwr. Mae'n werth nodi bod olion dwy Domen a Beili o'r un cyfnod i'w cael naill ochr i'r afon, yn agos i safle gwreiddiol yr eglwys. Darganfyddwyd 'Carreg Gavin', yn dangos croes a tharian wedi'u cerfio, yng nghanol un o'r waliau. Fe'i henwyd ar ôl y saer maen ddaeth o hyd iddi, ac mae'r garreg yn dyddio o'r 7-9ed ganrif yn ôl arbenigwyr Amgueddfa Cymru. Golyga hyn ei bod yn debygol fod y safle wedi bod yn gyrchfan i addolwyr Cristnogol ymhell cyn adeiladu'r eglwys o garreg - efallai bod eglwys o bren wedi sefyll yno, er enghraifft.
Dros y canrifoedd, estynnwyd ar yr adeilad fesul dipyn. Gan amlaf, bydd corff, neu siap, eglwys yn ymestyn ac yn newid dros gyfnod o ganrifoedd. Adlewyrcha hyn y defnydd amrywiol wnaethpwyd o'r adeilad dros yr amser hwnnw, a maint ei chynulleidfa.
Erbyn 1520, roedd maint Eglwys Sant Teilo wedi dyblu. Roedd capel, neu allor, preifat yn ymestyn tua'r gogledd: credir ar hyn o bryd mai i'r teulu 'Goronow' yr adeiladwyd hwn, i weddïo'n arbennig dros aelodau pwysig o'r teulu. Tua'r amser yma, hefyd, yr ail-beintwyd y waliau. Roedd addurniadau wedi'u paentio ar y wal ymhell cyn y dyddiad hwn, ond wedi'u gorchuddio â phlastr calch. Goroesodd yr haen o blastr o 1520 yn arbennig o dda - roedd darnau ohoni yn ddigon cadarn i'w symud o'r eglwys a'u copïo. Wrth ymweld â'r adeilad heddiw, gallwch weld fersiynau llachar, ffres o'r darluniau a achubwyd.
Bu'r 'Hen Eglwys', fel y'i hadnabyddir yn lleol, yn adeilad pwysig i gymuned Bontarddulais am ganrifoedd. Er iddi stopio â bod yn eglwys y plwyf oddeutu 1810, roedd pobl leol yn dal i gynnal gwasanaethau yno, gyda llawer yn cofio'r 'Siwrne Haf' - sef taith o'r pentref at yr eglwys i'w gwyngalchu yn yr haf. Parhaodd y traddodiad hwn tan y 1970au, pan ddechreuodd yr adeilad adfeilio'n ddrwg.
Cynigwyd Eglwys Sant Teilo i Amgueddfa Werin Cymru am nad oedd modd trwsio'r adeilad ar ei safle gwreiddiol. Dechreuodd y gwaith o ddymchwel yr eglwys ym Mhontarddulais ym 1986 ac fe gwbwlhawyd y gwaith o'i hailgodi yn mis Hydref 2007[1].