Ehud Olmert | |
---|---|
12th Prif Weinidog Israel | |
Yn ei swydd 14 Ebrill 2006 – 31 Mawrth 2009 Prif Weinidog Mewn Gofal: 4 Ion 2006 – 14 Ebr 2006* | |
Arlywydd | Moshe Katsav Shimon Peres |
Dirprwy | Tzipi Livni |
Rhagflaenwyd gan | Ariel Sharon |
Dilynwyd gan | Benjamin Netanyahu |
Maer Jeriwsalem | |
Yn ei swydd Tachwedd 1993 – 2003 | |
Rhagflaenwyd gan | Teddy Kollek |
Dilynwyd gan | Uri Lupolianski |
Manylion personol | |
Ganwyd | Binyamina-Giv'at Ada | 30 Medi 1945
Plaid wleidyddol | Likud (1973–2006) Kadima (2006–presennol) |
Priod | Aliza Olmert |
Plant | 4 |
Alma mater | Prifysgol Hebraeg Jeriwsalem |
Prif Weinidog Israel rhwng 2006 a 2009 (y 12fed i ddal y swydd), a chyn-arweinydd plaid Kadima yw Ehud Olmert (Hebraeg: אהוד אולמרט, IPA: [ɛˈhud ˈolmeʁt], ganed 30 Medi 1945). Dechreuodd Olmert weithredu fel Prif Weinidog dros dro ar 4 Ionawr 2006, ar ôl i Ariel Sharon ddioddef strôc yn ystod yr etholiadau. Enillodd ei blaid (Kadima) etholiad Mawrth 2006, gan alluogi Olmert i barhau yn ei swydd. Ar 4 Mai 2006, dyddiau ar ôl iddo ffurfio llywodraeth newydd, daeth yn Brif Weinidog swyddogol Israel.
Olmert a roddodd y "golau gwyrdd" i gychwyn y rhyfel yn erbyn Llain Gaza yn Rhagfyr 2008. Yn ôl un ffynhonnell Israelaidd, cafodd gydsyniad George W. Bush i wneud hynny ond mae Dick Cheney wedi gwadu hynny.[2]