El Greco | |
---|---|
Retrato de un caballero anciano gan El Greco. Credir ei fod yn lun ohono ef ei hun. | |
Ffugenw | Theotocopuli, Dominico |
Ganwyd | 1 Hydref 1541 Heraklion, Fodele |
Bu farw | 7 Ebrill 1614 Toledo |
Dinasyddiaeth | Coron Castilia, Gweriniaeth Fenis |
Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd, pensaer, drafftsmon |
Adnabyddus am | The Resurrection, View of Toledo, The Burial of the Count of Orgaz, The Nobleman with his Hand on his Chest, Dormition of the Virgin, Modena Triptych, The Martyrdom of St. Maurice, The Vision of Saint John, Laocoön |
Arddull | portread (paentiad), paentiad mytholegol, paentiadau crefyddol, icon painting, peintio genre, peintio hanesyddol, celf tirlun, portread |
Mudiad | Spanish Renaissance, Darddulliaeth |
Partner | Jerónima de Las Cuevas |
Plant | Jorge Manuel Theocupulus |
llofnod | |
Arlunydd, cerflunydd a phensaer o darddiad Groegaidd oedd Doménikos Theotokópoulos (Groeg: Δομήνικος Θεοτοκόπουλος) (1541 - 7 Ebrill 1614). Gweithiodd yn Sbaen o 1577 hyd ei farwolaeth, ac mae'n fwy adnabyddus dan yr enw El Greco ("Y Groegwr").
Ganed ef ar ynys Creta, oedd ar y pryd yn perthyn i Ymerodraeth Fenis. Yn 26 oed aeth i Fenis i astudio, yna ym 1570 symudodd i Rufain, lle agorodd stiwdio. Ym 1577 symudodd eto i Toledo yn Sbaen, lle bu weddill ei oes. Ystyrir ef yn un o feistri mwyaf y traddodiad arlunio Sbaeneg.