Eleanor Vachell | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ionawr 1879 Caerdydd |
Bu farw | 6 Rhagfyr 1948 Caerdydd |
Man preswyl | Cymru |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | botanegydd, casglwr botanegol |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas y Linnean |
Botanegydd o Gymru oedd Eleanor Vachell (8 Ionawr 1879 – 6 Rhagfyr 1948) a adnabyddir yn bennaf am gasglu un o'r hebaria mwyaf cynhwysfawr a gasglwyd gan unigolion erioed, gyda ei thad, C. T. Vachell: 6705 o sbesimenau sych[1] sydd 'nawr yng nghasgliadau Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Vachell oedd y fenyw gyntaf i eistedd ar Gyngor a Llys yr amgueddfa. Cedwir ei dyddiaduron, ei nodiadau, ynghyd â'r sbesimenau â gasglodd, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd[2].
Un o'i phrif weithgareddau oedd adnabod a dosbarthu rhywogaethau newydd o blanhigion ym Morgannwg a thu hwnt, a llwyddodd dros ei hoes i ddisgrifio bron i bob planhigyn yng ngwledydd Prydain.
|access-date=, |date=
(help)
|access-date=
(help)