Math arbennig o bennill sy'n unigryw i ddiwylliant Cymru a llenyddiaeth Gymraeg yw'r englyn. Mae ei wreiddiau'n hen gyda'r enghreifftiau ysgrifenedig cynharaf yn dyddio o tua'r 9g. Ar lafar, mae englyn yn tueddu i fod yn gyfystyr ag englyn unodl union, ond mae sawl math arall. Nid englynion unodl union mo'r enghreifftiau cynharaf, ond yn hytrach englynion milwr ac englynion penfyr, sef Canu Llywarch Hen a'r enghreifftiau yn Llawysgrif Juvencus.
O ail-drefnu rhai o linellau'r Gododdin a briodolir i Aneirin, gellir ffurfio englyn unodl union. Ceisiodd yr ysgolhaig John Rhŷs brofi mai o'r Lladin y daeth mesur yr englyn, felly mae'n fesur hen iawn.
Erbyn hyn, gall englyn sefyll ar ben ei hun fel cyfanwaith. Tueddai Beirdd y Tywysogion a Beirdd yr Uchelwyr ganu gosteg, cadwyn neu gyfres o englynion yn hytrach nag englyn unigol, ond ceir eithriadau, fel englyn Guto'r Glyn i'w henaint. Canodd Cynddelw Brydydd Mawr dri englyn unodl union coffa i'w fab, Dygynnelw, yn ogystal.
Roedd englynion yn rhannau pwysig o gyfarwyddyd, a thybir mai gweddillion cyfarwyddyd yw'r englynion a briodolir i Lywarch Hen a Heledd. Mae Efnisien yn canu englyn yn Ail Gainc y Mabinogi.