Y pedwar mesur ar hugain |
Y pedwar mesur ar hugain yw'r gyfundrefn o fesurau caeth a ddaeth yn ganon awdurdodol ym marddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol Diweddar, sef cyfnod Beirdd yr Uchelwyr. |
Mesur caeth yw'r englyn milwr. Tair llinell saith sillaf, gyda phob llinell yn odli gyda'i gilydd.
Gall y llinellau ddiweddu'n acennog neu'n diacen.
Ceir defnydd helaeth o'r englyn milwr yn "Ymadawiad Arthur" gan T Gwynn Jones; dyma enghraifft:
Llwybr i dranc y lle bo'r drin,
Diau, ni ddawr angau rin
Na breiniau glew na brenin.
Nid oes gair cyrch o gwbwl mewn englyn milwr.
Ni chynhwyswyd y mesur gan Ddafydd ab Edmwnd yn ei Bedwar Mesur ar Hugain ym 1451, ond y mae'n fesur cydnabyddedig a phoblogaidd iawn heddiw.[1]
Fel yr englyn penfyr, tueddir i weld cyfresi o englynion milwr mewn awdlau yn hytrach nag englyn milwr unigol, ond gall y mesur sefyll ar ei ben ei hun yn ogystal. Gofynnir am gyfres o englynion milwr fel cystadleuaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn achlysurol.