Math | pentref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 383, 366 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,210.9 ha |
Cyfesurynnau | 52.9669°N 2.9605°W |
Cod SYG | W04000224 |
Cod OS | SJ355414 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Ken Skates (Llafur) |
AS/au y DU | Andrew Ranger (Llafur) |
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Erbistog[1] (Saesneg: Erbistock).[2] Saif bron ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, ar lan orllewinol Afon Dyfrdwy, i'r de o dref Wrecsam ac i'r dwyrain o Rhiwabon.
Arferai'r safle yma fod yn un o'r ychydig leoedd lle gellis croesi'r rhan yma o Afon Dyfrdwy yn ddiogel ar fferi. Dywedir fod y Boat Inn, sy'n dyddio o'r 18g, ar safle'r hen fferi. Adeiladwyd yr eglwys, a gysegrwyd i Sant Bar, yn 1861. Crybwyllir eglwys gynharach, yn dyddio o'r 13g, oedd wedi ei chysegru i Sant Erbin. Dywedir fod neuadd y pentref ar safle hen ysgol a sefydlwyd gan y merthyr Catholig Rhisiart Gwyn. Mae poblogaeth y gymuned yn 409.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Andrew Ranger (Llafur).[3][4]