Delwedd:Anton Kaulbach Faust und MephistoFXD.jpg, Richard Westall - Faust and Lilith.jpg | |
Math o gyfrwng | gwaith llenyddol, cyfres o weithiau creadigol |
---|---|
Crëwr | Richard Westall |
Awdur | Johann Wolfgang von Goethe |
Iaith | Almaeneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1808, 1832 |
Dechrau/Sefydlu | 1774 |
Genre | tragedy |
Rhagflaenwyd gan | Urfaust, Faust. A fragment |
Cymeriadau | Mephistopheles, Heinrich Faust, Margarete |
Yn cynnwys | Faust, Part One, Faust, Part Two |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfuniad o ddrama a cherdd hir mewn Almaeneg yw Faust gan Johann Wolfgang von Goethe. Fe'i ystyrir yn un o wethiau llenyddol enwocaf yr iaith Almaeneg.
Cyhoeddwyd y rhan gyntaf, Faust. Der Tragödie erster Teil ("Faust: y rhan gyntaf o'r Drasiedi") yn 1808, a'r ail ran, Faust. Der Tragödie zweiter Teil ("Faust: yr ail ran o'r Drasiedi") wedi marwolaeth Goethe yn 1832.
Roedd Goethe wedi bod yn gweithio ar y thema o'r cyfnod rhwng 1772 a 1775, pan ysgrifennodd fersiwn o'r stori a elwir yn Urfaust. Yn 1790, cyhoeddodd Faust. Ein Fragment, oedd yn ddatblygaid o ddeunydd yr Urfaust. Tra'r oedd y chwedl wreiddiol yn un Gristnogol, ychwanegodd Goethe elfennau clasurol a hanes carwriaeth Faust a Gretchen.
Cyfieithwyd i'r Gymraeg gan Cyfieithwyd gan T Gwyn Jones fel rhan o'r gyfres o lyfrau Cyfres y Werin yn 1922. Bu Faust gan Goethe hefyd yn ysbrydoliaeth i nifer o weithiau cerddorol adnabyddus, Faust gan Charles Gounod, Damnedigaeth Faust gan Hector Berlioz a Symffoni Faust gan Franz Liszt. Cafwyd cyfieithiad Cymraeg yn 1994 gan R. Gerallt Jones (Cyfres Dramâu Aberystwyth, CAA 1994).