Gweriniaeth Folifaraidd Feneswela República Bolivariana de Venezuela (Sbaeneg) | |
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad |
---|---|
Enwyd ar ôl | Simón Bolívar, Fenis |
Prifddinas | Caracas |
Poblogaeth | 28,515,829 |
Sefydlwyd | 5 Gorffennaf 1811 (oddi wrth Sbaen) 29 Mwrth 1845 (Cydnabod) |
Anthem | Gogoniant i'r Dewrion |
Pennaeth llywodraeth | Nicolás Maduro |
Cylchfa amser | UTC−04:00, America/Caracas |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg, Iaith Arwyddo Feneswela |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | De America, America Sbaenig, Ibero-America, America Ladin, Cytundeb Masnach Rydd y G3 |
Arwynebedd | 912,050 km² |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Yn ffinio gyda | Colombia, Brasil, Gaiana, Gweriniaeth Dominica, Trinidad a Thobago, Sant Kitts-Nevis, Dominica, Sant Lwsia, Sant Vincent a'r Grenadines, Grenada, Brenhiniaeth yr Iseldiroedd, Unol Daleithiau America, Ffrainc, y Deyrnas Unedig, Puerto Carreño |
Cyfesurynnau | 8°N 67°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Cangen Gweithredol Genedlaethol |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol Feneswela |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Feneswela |
Pennaeth y wladwriaeth | Nicolás Maduro, Juan Guaidó |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Feneswela |
Pennaeth y Llywodraeth | Nicolás Maduro |
Arian | sofren bolifar |
Cyfartaledd plant | 2.365 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.691 |
Gwlad yn Ne America yw Feneswela[1] (Sbaeneg: Venezuela). Yr enw swyddogol yw Gweriniaeth Folifaraidd Feneswela (Sbaeneg: República Bolivariana de Venezuela), er cof am Simón Bolívar. Yng nghyfrifiad diwethaf y wlad roedd ei phoblogaeth oddeutu 28,515,829 (2019).
Lleolir y wlad ar arfordir gogleddol De America, sy'n cynnwys tirfas cyfandirol a llawer o ynysoedd ac ynysoedd ym Môr y Caribî.[2] 916,445 km 2 (353,841 metr sgwâr) yw ei harwynebedd. Y brifddinas, a'r dref fwyaf yw Caracas.
Yn y gogledd mae'n ffinio â Môr y Caribî a Chefnfor yr Iwerydd; i'r gorllewin mae'n rhannu ffin â Colombia, a Brasil yn y de, Trinidad a Tobago i'r gogledd-ddwyrain ac i'r dwyrain gyda Guyana. Mae llywodraeth Feneswela'n hawlio Guayana Esequiba ond anghytuna Guyana gyda hynny.[3] Gweriniaeth arlywyddol ffederal yw Feneswela, sy'n cynnwys 23 talaith, y Brifddinas a dibyniaethau ffederal sy'n cwmpasu nifer o ynysoedd. Mae Venezuela ymhlith y gwledydd mwyaf trefol yn America Ladin.[4] Trigai'r mwyafrif llethol o Feneswelaiaid yn ninasoedd y gogledd ac yn y brifddinas, yn hytrach na'r wlad.
Gwladychwyd tiriogaeth Feneswela gan Sbaen ym 1522 yng nghanol gwrthwynebiad cryf y bobl frodorol. Yn 1811, daeth yn un o'r tiriogaethau Sbaenaidd-Americanaidd cyntaf i ddatgan annibyniaeth oddi ar y Sbaenwyr gan ffurfio rhan neu adran o Weriniaeth ffederal gyntaf Colombia (a elwir yn hanesyddol yn Gran Colombia). Fe wahanodd fel gwlad sofran lawn ym 1830. Yn ystod y 19g, dioddefodd Feneswela gythrwfl gwleidyddol ac awtocratiaeth, gan unbeniaid milwrol rhanbarthol a pharhaodd y drefn hon tan ganol yr 20g. Ers 1958, mae'r wlad wedi cael cyfres o lywodraethau democrataidd, ac mae hyn yn eithriad mewn cyfandir lle rheolwyd y rhan fwyaf o'r gwledydd gan unbenaethau milwrol, a nodweddwyd y cyfnod gan ffyniant economaidd.
Arweiniodd sioc economaidd y 1980au a'r 1990au at argyfyngau gwleidyddol mawr ac aflonyddwch cymdeithasol eang, gan gynnwys terfysgoedd Caracazo ym 1989, dau ymgais i geisio coups milwrol ym 1992, ac uchelgyhuddo Llywydd am ysbeilio arian cyhoeddus ym 1993. Gwelodd y cwymp mewn hyder yn y pleidiau presennol etholiad arlywyddol Veneswela 1998, catalydd y Chwyldro Bolifaraidd, a ddechreuodd gyda Chynulliad Cyfansoddol ym 1999, lle cadarnhawyd Cyfansoddiad newydd Feneswela. Cafodd polisïau lles cymdeithasol poblogaidd y llywodraeth eu cryfhau gan brisiau olew uchel,[5] cynyddu gwariant cymdeithasol dros dro,[6] a lleihau anghydraddoldeb economaidd a thlodi ym mlynyddoedd cynnar y gyfundrefn. Roedd cryn anghydfod yn etholiad arlywyddol Feneswela yn 2013 gan arwain at brotest a sbardunodd argyfwng arall ledled y wlad, sy'n parhau hyd heddiw (2021).[7]
Mae Venezuela yn wlad sy'n datblygu ac yn 113 ar y Mynegai Datblygiad Dynol. Mae ganddi'r cronfeydd olew mwya'r byd ac mae wedi bod yn un o brif allforwyr olew y byd. Yn flaenorol, roedd y wlad yn allforiwr annatblygedig o nwyddau amaethyddol fel coffi a choco, ond daeth olew yn gyflym i ddominyddu allforion a refeniw'r llywodraeth. Arweiniodd polisïau gwael y llywodraeth deiliadol at gwymp economi gyfan Venezuela.[8][9] Mae'r wlad yn cael trafferth gyda gorchwyddiant (hyperinflation) uwch nag erioed,[10][11] prinder nwyddau sylfaenol,[12] diweithdra,[13] tlodi,[14] afiechyd, marwolaethau plant, diffyg maeth a throseddau difrifol.
Effaith hyn oedd gweld mwy na thair miliwn o bobl yn ffoi o'r wlad.[15] Erbyn 2017, datganwyd bod Feneswela yn ddrwgdalwr oherwydd ei dyled ariannol gan asiantaethau statws credyd.[16][17] Mae'r argyfwng yn Venezuela wedi cyfrannu at sefyllfa hawliau dynol sy'n dirywio'n gyflym, gan gynnwys carcharu mympwyol, llofruddiaethau ac ymosodiadau ar eiriolwyr hawliau dynol. Mae Feneswela'n aelod siarter o'r Cenhedloedd Unedig, OAS, UNASUR, ALBA, Mercosur, LAIA ac OEI.
Venezuela's fall is considered to be mainly caused by the populist policyMissing or empty
|title=
(help)