Ffilm ddrama

Ffilm ddrama
Poster y ffilm ddrama 12 Angry Men (1957), un o glasuron sinema'r Unol Daleithiau.
Enghraifft o'r canlynolgenre mewn ffilm Edit this on Wikidata
Mathdrama fiction, ffilm Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Genre o ffilm yw ffilm ddrama a nodweddir gan stori ffuglennol (neu led-ffuglennol, yn achos drama ddogfen) ddifrif, gyda chymeriadaeth ddofn, sy'n ceisio dal sylw'r gwyliwr yn natblygiad y plot a thynged y cymeriadau gydag effaith ar ei deimladau. Defnyddir y gair "drama" yma mewn ystyr debyg i ddrama radio neu deledu: stori draethiadol realistig, sy'n ceisio adlonni'r gynulleidfa trwy emosiwn a diddordeb yn hytrach na chwerthin.[1] Mae ffilmiau drama fel arfer yn ymwneud â sefyllfaoedd pob dydd a phrofiadau dynol, gan flaenoriaethau meddyliau a pherthnasau'r cymeriadau: cymhelliant, gwrthdaro, a thwf personol. Mae themâu cyffredin y genre yn cynnwys cariad, y teulu, hunaniaeth, cyfyng-gyngorau moesol, colled a galar, goroesiad, unigrwydd ac ymddieithriad, grym a llygredigaeth, gwaredigaeth a maddeuant, ymddiriedaeth a brad, a dirfodaeth. Mae nifer o ffilmiau drama yn ymwneud â phynciau llosg a materion cymdeithasol, megis hiliaeth, trosedd a chosb, a rhywioldeb. Gall y digwyddiadau mewn ffilm ddrama fod yn gyffrous i raddau, ond nid ydynt mor anghyffredin â'r hyn a geir mewn ffilm gyffro neu lawn cyffro ("acsiwn").

Disgrifir ffilmiau drama fel arfer gyda thermau ychwanegol i nodi is-genre, pwnc, neu thema'r stori, er enghraifft drama hanesyddol, drama drosedd (gan gynnwys drama heddlu a drama lys), drama ramantus, drama seicolegol, drama deuluol neu ddrama gegin, drama'r arddegau, neu ddrama wleidyddol. Fel rheol bwriedir y ffilm ddrama i fod yn stori ddifrif, o bosib trasig, ac yn wahanol felly i ffilm gomedi. Fodd bynnag, mae is-genre'r ddrama gomedi yn pontio'r gwahaniaeth hwn, ac yn cynnwys elfennau digrif yn ogystal â stori ddramatig.

  1. Modern British Drama on Screen (yn Saesneg). Cambridge University Press. 2013. ISBN 9781107652408.

Ffilm ddrama

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne