Ffilm drosedd

Ffilm drosedd
Poster y ffilm gangster Americanaidd The Public Enemy (1931), un o glasuron y genre, sy'n serennu James Cagney a Jean Harlow.
Enghraifft o'r canlynolgenre mewn ffilm Edit this on Wikidata
Mathffilm, ffuglen drosedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Genre o ffilm draethiadol yw ffilm drosedd sy'n ymwneud â thor-cyfraith a byd trosedd, gan bortreadu bywydau a gweithgareddau troseddwyr, ymdrechion y rhai sy'n ceisio gorfodi'r gyfraith, a chanlyniadau troseddu ar unigolion a chymdeithas. Fel rheol, mae ffilm drosedd yn cyfeirio at waith ffuglennol neu ddramateiddiad o ddigwyddiadau go iawn, ac nid ffilm ddogfen sy'n ymwneud â phwnc trosedd. Genre eang ydyw sy'n cynnwys nifer o is-genres ac arddulliau, gan amrywio o bortreadau di-gêl a realistig, i ddehongliadau arddulliedig neu gyffrogarol, a gweithiau cymysg sy'n croesi'r ffin â chomedi, ffuglen gyffro, a genres eraill. Mae ffilmiau trosedd yn archwilio themâu megis moesoldeb, cyfiawnder, grym, ac effeithiau trosedd ar bobl. Mae motiffau cyffredin y genre a dyfeisiau o adrodd y stori drosedd yn cynnwys ysbeiliadau ac ymosodiadau gan droseddwyr, ymchwiliadau gan yr heddlu neu dditectif preifat, golygfeydd o dreialon, dirgelwch a datguddiad, brad, dial, a dihangfa. Gall yr elfennau hyn gyfrannu at ddrama, tensiwn, ing, cynnwrf, neu ias y stori.

Mae'r sgriptiwr ac ysgolhaig ffilm Eric R. Williams yn disgrifio'r ffilm drosedd fel un o'r 11 o uwch-genres ym myd y sinema, ynghyd â'r ffilm lawn cyffro, y ffilm ramantus, ffantasi, arswyd, gwyddonias, comedi, y ffilm chwaraeon, y ffilm gyffro, y ffilm ryfel, a'r Western.[1]

  1. Eric R. Williams, The Screenwriters Taxonomy: A Roadmap to Collaborative Storytelling (Efrog Newydd: Routledge, 2018), t. 21. ISBN 978-1-315-10864-3. OCLC 993983488

Ffilm drosedd

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne