Math o gyfrwng | genre mewn ffilm |
---|---|
Math | ffilm |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae ffilm gerdd yn genre ffilm lle mae'r cymeriadau'n perfformio caneuon, weithiau gyda dawnsio. Fel arfer mae'r caneuon yn cyfrannu at y plot neu'n datblygu cymeriadau'r ffilm, ond mewn rhai achosion, dim ond torri'r naratif maen nhw, fel seibiant o'r stori.
Gall fod gan ffilmiau cerdd stori wreiddiol a thrac sain, fel Footloose, neu gallant fod yn seiliedig ar sioeau cerdd llwyfan, fel Evita, neu Chicago (2002).
Datblygodd ffilm gerdd yn naturiol o'r sioe gerdd. Gwnaethpwyd hyn yn bosibl gan ymddangosiad technoleg ffilm sain yn 1927, pan ddyfeisiwyd y system Vitaphone. Gwnaed miloedd o ffilmiau cerddorol byr.[1] Y gwahaniaeth mwyaf rhwng sioeau cerdd ffilm a llwyfan yw’r lleoliadau a golygfeydd cefndir moethus mewn ffilm na fyddai’n bosibl mewn theatr. Er hynny, mae ffilmiau cerdd yn cynnwys elfennau sy'n dwyn y theatr i gof; yn aml bydd perfformwyr yn trin eu heitemau caneuon a dawns fel petai cynulleidfa fyw yn eu gwylio.
Y ffilm gerdd lawn gyntaf gyda'i thrac sain ei hun oedd The Jazz Singer.[2]