Math o gyfrwng | ymosodiad gan hunanfomiwr |
---|---|
Dyddiad | 7 Gorffennaf 2005 |
Lladdwyd | 56 |
Lleoliad | Tavistock Square, Liverpool Street tube station, Edgware Road tube station, Piccadilly Line |
Rhanbarth | Camden |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfres o ffrwydradau bom cydamserol a darodd system cludiant cyhoeddus Llundain yn ystod cyfnod awr frys y bore oedd ffrwydradau Llundain 7 Gorffennaf 2005. Am 8:50 BST 7 Gorffennaf 2005, ffrwydrodd dri bom o fewn 50 eiliad o'i gilydd ar dri trên London Underground. Ffrwydrodd bedwaredd fom ar fws bron i awr yn hwyrach am 9:47 y.b. yn Sgwâr Tavistock. Arweiniodd y ffrwydradau at chwalfa ddygn o isadeiledd trafnidiaeth a thelathrebu y ddinas am weddill y diwrnod.
Lladdwyd 56 o bobl yn yr ymosodiadau, gan gynnwys y pedwar hunan-fomiwr, ac anafwyd 700. Hyn oedd yr ymosodiad terfysgol mwyaf difrifol yn y Deyrnas Unedig ers i Pan Am Flight 103 cael ei fomio dros dref Lockerbie, yr Alban, yn 1988 (a wnaeth lladd 270), a'r cyrch bomio a laddodd y fwyaf yn Llundain ers yr Ail Ryfel Byd.[1]