Ffugysgrifeniadau

Testunau apocryffaidd a briodolir yn anghywir yw ffugysgrifeniadau (Groeg: pseudepigraphos). Defnyddir yr enw gan amlaf yng nghyd-destun y Beibl, i ddisgrifio'r testunau nas cynhwysir yng nghanon yr Hen Destament gan unrhyw o'r prif enwadau Cristnogol, na chan yr Iddewon yn y Beibl Hebraeg. Maent felly, ynghyd â'r gweithiau isganonaidd, yn ffurfio apocryffa'r Hen Destament. Priodolir y rhain i gyd i awduron a sonir amdanynt yng nghanon yr Hen Destament, ac maent yn dyddio o'r cyfnod rhyngdestamentaidd (2g CC i'r 2g OC), a ni cheir ffynonellau Hebraeg nac Aramaeg gwreiddiol ohonynt. Ysgrifennwyd yn Lladin, Groeg, Syrieg, Georgeg, Armeneg, Copteg, ac Ethiopeg. Cafwyd hyd i ragor o ffugysgrifeniadau, yn Hebraeg ac Aramaeg, yn Sgroliau'r Môr Marw.

Rhennir y ffugysgrifeniadau yn ddatguddiadau, testamentau, gweithiau sy'n ymhelaethu ar straeon canonaidd yr Hen Destament, llên ddoethineb, a gweddïau, salmau, a chaniadau.[1] Mae'r mwyafrif o'r gweithiau, ar wahân i'r datguddiadau, yn ddienw, a bod yn fanwl gywir nid ydynt wedi priodoli ar gam i awdur Beiblaidd, er bod eu harddull a'u cynnwys yn ymhonni taw testunau Beiblaidd ydynt. Testunau Iddewig ydy'r mwyafrif ohonynt, ac mae ambell un yn cynnwys rhyngosodiadau o natur Gristnogol.

  1. "Biblical Literature: Apocrypha And Pseudepigrapha", Encyclopedia of Religion (Thomson Gale, 2005). Adalwyd ar 31 Ionawr 2019.

Ffugysgrifeniadau

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne