Francisco Goya | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mawrth 1746 Fuendetodos |
Bu farw | 16 Ebrill 1828 Bordeaux |
Man preswyl | Quinta del Sordo |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Aragon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, gwneuthurwr printiau, lithograffydd, ysgythrwr, drafftsmon, artist |
Swydd | arlunydd llys |
Adnabyddus am | La maja desnuda, Sant Bernardino o Siena yn pregethu i Alfonso V, brenin Aragón, Y Ci, Portread o Don Ramón Satué, Y Trydydd o Fai, 1808, La maja vestida, Caprichos, The last communion of St Joseph of Calasanz, The Second of May 1808, General José de Palafox on Horseback, Portrait of Mariano Goya, the Artist’s Grandson, Portrait of Mariano Goya, the Artist's Grandson, Portrait of Mariano Goya, Our Lady of the Pillar, Adoration of the Name of God, Regina Martyrum |
Arddull | portread (paentiad), paentiad mytholegol, paentiad o frwydr, peintio hanesyddol, paentiadau crefyddol, portread, peintio genre, bywyd llonydd |
Prif ddylanwad | Hieronymus Bosch |
Mudiad | Rhamantiaeth, Rococo |
Tad | José Benito de Goya y Franque |
Mam | Gracia de Lucientes y Salvador |
Priod | Josefa Bayeu |
Plant | Francisco Javier Goya Bayeu |
Perthnasau | Francisco Bayeu y Subías, Manuel Bayeu, Ramón Bayeu |
llofnod | |
Arlunydd o Sbaen oedd Francisco José de Goya y Lucientes (30 Mawrth 1746 – 16 Ebrill 1828).[1] Ystyrir ef fel yr olaf o'r Hen Feistri, ond hefyd yn ffigwr allweddol yn natblygiad arlunwaith fodern, gan ddylanwadu ar arlunwyr fel Manet a Picasso. Cyfeirir at Goya yn aml fel yr olaf o'r Hen Feistri a'r cyntaf o'r moderns.[2][3][4]
Ganed Goya yn [Fuendetodos]], Sbaen, yn Nheyrnas Aragón yn 1746. Symudodd y teulu i Zaragoza yn ddiweddarach, ac addysgwyd ef yno. Daeth yn brentis i'r arlunydd José Luján pan oedd yn 14 oed. Yn ddiweddarach, symudodd i ddinas Madrid lle astudiodd dan Anton Raphael Mengs, ond ffraeodd ag ef a methodd gael mynediad i'r Academi Frenhinol.
Teithiodd i Rufain ac yna dychwelodd i Zaragoza. Astudiodd dan Francisco Bayeu y Subías, a phriododd Josefa, chwaer Bayeu, yn 1774. Dechreuodd ennill sylw fel arlunydd ac ennill comisiynau. Erbyn y 1790au roedd yn ffefryn y teulu brenhinol, ond wedi iddo ddioddef twymyn yn 1792, aeth yn fyddar. Treuliodd bum mlynedd yn adfer ei iechyd, gan ddarllen llawer am y Chwyldro Ffrengig. Cyhoeddodd gasgliad o luniau dan y teitl Caprichos yn 1799.
Pan feddiannwyd Sbaen gan Ffrainc gan ddechrau rhyfel 1808–1814, dechreuodd Goya weithio ar gyfres o brintiau Trychinebau rhyfel (Los desastres de la guerra). Bu farw Josefa yn 1812. Symudodd i Bordeaux a Paris yn 1824, gan ddychwelyd i Sbaen yn 1826 ac yna mynd i Bordeaux eto, lle bu farw yn 1828 yn 82 oed.
Yn dilyn strôc a barlyswyd ef ar ei ochr dde, dioddefodd ei olwg, bu farw a chladdwyd ef ar 16 Ebrill 1828 yn 82 oed. Yn ddiweddarach, cafodd ei gorff ei ail-gladdu yn y Real Ermita de San Antonio de la Florida ym Madrid, ond aeth ei benglog ar goll, manylyn a gyfathrebodd conswl Sbaen ar unwaith i'w uwch swyddogion ym Madrid, a gwifrwyd y neges ganlynol yn ôl, "Anfon Goya, pen neu beidio!"[5]