Geiriadur yr Academi

Geiriadur yr Academi

Geiriadur yr Academi (Saesneg: The Welsh Academy English-Welsh Dictionary) yw'r geiriadur Saesneg-Cymraeg mwyaf cynhwysfawr erioed. Ffrwyth blynyddoedd o waith gan y golygyddion Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones ydyw. Fe'i cyhoeddwyd yn 1995 a chafodd ail gyhoeddi fel fersiwn diwygiedig ym Medi 2003.

Mae'n gyfrol swmpus o dros 1,700 tudalen (tt. lxxxi + 1716) a gyhoeddir gan Gwasg Prifysgol Cymru ar ran Yr Academi Gymreig. Cynhwysir llu o enwau Cymraeg am dermau newydd ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, cyfrifiadureg, masnach, cyfryngau torfol, addysg, a.y.b.

Yn ôl Bruce Griffiths, nid yw'n dechnegol bosibl ychwanegu at y geiriadur, ers tua 2008, gan nad yw'r wasg yn gallu newid y prif destun. Dywedodd yn Golwg, "Mi wnaethon nhw brintio cywiriadau fel atodiad i'r prif destun. Ond yn anffodus, mae'r fersiwn ar-lein wedi'i gynnwys heb yr atodiad. Er enghraifft, dydy'r gair website ddim yno (ar-lein) ond mae yn yr atodiad papur."[1]

  1. "Pryderu am ddyfodol Geiriadur yr Academi", Golwg 24 (34): 5, 2012

Geiriadur yr Academi

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne