Math o gyfrwng | cangen o fewn cemeg, gwyddoniaeth ryngddisgyblaethol, disgyblaeth academaidd, pwnc gradd |
---|---|
Math | cemeg, gwyddorau daear |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Geocemeg yw'r astudiaeth wyddonol o gyfansoddiad cemegol y Ddaear. Mae'n cynnwys amcangyfrif maint absoliwt a chymharol elfennau cyfansoddiadol y ddaear a'i isotropau, ynghyd â'u dosraniad a'u mudo yn yr amrywiol amgylcheddau geocemegol, sef y lithosffer, yr atmosffer, y biosffer a'r hydrosffer. yn ogystal ag yn y creigiau a mwynau sy'n cyfansoddi'r ddaear. Yng nghramen y ddaear, ocsigen (47%), silicon (28%) ac alwminiwm (8%) yw'r elfennau mwyaf cyffredin.