Y gofod materol sy'n bodoli rhwng galaethau yw gofod rhyngalaethol. Yn rhydd o lwch a mater arall, fel rheol, mae gofod rhyngalaethol yn agos iawn at fod yn faciwm neu wactod perffaith. Mae rhai damcaniaethau yn rhoi dwysedd ar gyfartaledd y Bydysawd yn faint sy'n cyfateb i tuag un atom o hydrogen i bob meter ciwbig[1][2]. Ond mae'n amlwg, fodd bynnag, nad yw dwysedd y Bydysawd yn wastadol ; mae'n amrywio o ddwysedd gymharol uchel yn y galaethau (yn cynnwys strwythurau dwysedd uchel iawn oddi fewn iddynt, fel planedau, sêr, a thyllau duon) i wagleoedd anferth sydd â dwysedd is o lawer na'r cyfartaledd yn y Bydysawd cyfan. Dim ond tua 2.73 Kelvin yw tymheredd gofod rhyngalaethol[3]. Mesurodd menter COBE (COsmic Background Explorer) NASA dymheredd o 2.725 +/- 0.002 Kelvin.
Yn amgylchynnu galaethau ac yn ymestyn rhyngddynt, ceir plasma gordenau[4][5] y tybir fod ganddo strwythur edafaidd cosmig[6] sydd a dwysedd fymryn yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y Bydysawd cyfan. Gelwir y mater hwn yn 'gyfrwng rhyngalaethol' (intergalactic medium neu 'IGM') ac mae'n cynnwys, yn bennaf, hydrogen ïoneiddiedig, h.y. plasma sy'n cynnwys nifer gyfartal o electronau a protonau. Credir fod yr IGM yn bodoli gyda dwysedd o rhwng 10 a 100 gwaith dwysedd ar gyfartaledd y Bydysawd (10 i 100 atom hydrogen y meter ciwbig). Mae'n cyrraedd dwyseddau o hyd at 1000 gwaith dwysedd ar gyfartaledd y Bydysawd mewn clysterau galaethau dwys.
Mae gofod rhyngalaethol yn cynnwys sawl anomali na ellir eu hesbonio yn gwbl foddhaol eto, yn cynnwys yr anomali disgyrchiant a elwir yr Atynydd Mawr.