Gratianus | |
---|---|
Ganwyd | 11 g Toscana |
Bu farw | 12 g Chiusi, Bologna |
Galwedigaeth | cyfreithegwr, deddfegydd cyfraith yr eglwys, mynach |
Blodeuodd | 12 g |
Swydd | esgob |
Adnabyddus am | Decretum Gratiani |
Cyfreithegydd o'r Eidal a arloesodd y gyfraith ganonaidd oedd Gratianus (blodeuai yng nghanol yr 12g).
Nid oes tystiolaeth gadarn am fanylion bywyd Gratianus.[1][2] Yn ôl traddodiad, cafodd ei eni yn nhref Chiusi, Tysgani, tua 1090. Ymunodd ag urdd fynachiad y Camaldoliaid ac addysgodd ym Mynachlog y Saint Felix a Nabor yn Bologna. Dywed ysgolheigion canoloesol iddo fod yn frawd i Petrus Lombardus, awdur Liber Sententiarum, a Petrus Comestor, awdur Historia Scholastica, mewn ymgais i lunio perthynas ddychmygol i gysylltu sefydlwyr y gyfaith ganonaidd, diwinyddiaeth ysgolaidd, ac hanesyddiaeth Feiblaidd.[3] Mae awduron eraill yn honni taw un o Urdd Sant Bened oedd Gratian.[4] Tybir iddo farw rhywbryd yn y 1150au.
Cyflawnodd y Concordia discordantium canonum, a elwir yn aml yn Decretum Gratiani, tua 1140. Casgliad ydyw o ryw 4000 o destunau ar bynciau cyfreithiol a chyda sylwebaeth ac esboniadau'r awdur, ac yn dilyn hynt y gyfraith Gristnogol o Ganonau'r Apostolion, testun apocryffaidd o'r 4g, hyd at ddeddfau eglwysig y Pab Innocentius II ac Ail Gyngor y Lateran yn oes Gratianus. Ymgais ydyw i gysoni'r anghydfodau mewn gweithiau canonaidd drwy gyfuniad o ddulliau'r cyfreithegydd, ar batrwm doethuriaid y gyfraith sifil yn Bologna, ac ysgolaeth diwinyddion Ffrengig gan gynnwys Lombardus. Ni chafodd y Decretum ei gydnabod yn ffurfiol gan yr Eglwys Babyddol, fodd bynnag cafodd ei defnyddio mewn llysoedd eglwysig ac ysgolion y gyfraith. Roedd yn gyflwyniad hollbwysig i gorff y cyfreithiau canonaidd hyd at 1917.