Enghraifft o: | digwyddiad hanesyddol |
---|---|
Dyddiad | 1968 |
Rhan o | hanes Tsiecoslofacia |
Lleoliad | Tsiecoslofacia |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Gwanwyn Prag (Tsieceg: Pražské jaro, Slofaceg: Pražská jar) yn gyfnod o wleidyddiaeth gynyddol ryddfrydol a phrotestio torfol yng Ngweriniaeth Sosialaidd Tsiecoslofacia. Dechreuodd ar 5 Ionawr 1968, pan etholwyd y diwygiwr Alexander Dubček yn Brif Ysgrifennydd Plaid Gomiwnyddol Tsiecoslofacia (KSČ), a pharhaodd tan 21 Awst 1968, pan oresgynnodd yr Undeb Sofietaidd (a'r mwyafrif o aelodau Cytundeb Warsaw) y wlad i atal y diwygiadau hyn. Aelodau Cytundeb Warsaw yr adeg honno oedd Gwlad Pwyl, Hwngari, Dwyrain yr Almaen a Bwlgaria. Aeth y myfyriwr Jan Palach ati i losgi ei hunan i farwolaeth ar 16 Ionawr 1969 mewn brotest yn erbyn y goresgyniad.
Roedd diwygiadau Gwanwyn Prag yn ymgais gref gan Dubček i roi hawliau ychwanegol i ddinasyddion Tsiecoslofacia mewn gweithred o ddatganoli rhannol o'r economi a democrateiddio. Roedd y rhyddid a roddwyd yn cynnwys llacio cyfyngiadau ar y cyfryngau, rhyddid barn a theithio. Ar ôl trafodaeth genedlaethol ar rannu'r wlad yn ffederasiwn o dair gweriniaeth, sef Bohemia, Morafia-Silesia a Slofaciagoruchwyliodd Dubček y penderfyniad i rannu'n ddwy, y Weriniaeth Sosialaidd Tsiec a Gweriniaeth Sosialaidd Slofacia.[1] Y ffederasiwn deuol hwn oedd yr unig newid ffurfiol a oroesodd y goresgyniad.
Ni chafodd y diwygiadau, yn enwedig datganoli awdurdod gweinyddol, dderbyniad da gan y Sofietiaid, a anfonodd hanner miliwn o filwyr Cytundeb Warsaw a thanciau i feddiannu'r wlad, ar ôl trafodaethau aflwyddiannus. Dyfynnodd y New York Times adroddiadau am 650,000 o ddynion Sofietaidd gyda'r arfau mwyaf modern a soffistigedig.[2] Ysgubodd ton enfawr o ymfudwyr yn ffoi o'r wlad. Cynyddwyd gwrthwynebiad y Tsiecoslafaciaid ledled y wlad, gan gynnwys difrodi arwyddion strydoedd, herio'r hwyrglychau ac ati. Cafwyd gweithredoedd treisgar yma-ac-acw a nifer o hunanladdiadau protest trwy hunanlosgi (yr enwocaf oedd y myfyriwr ifanc Jan Palach), ond dim gwrthwynebiad milwrol. Parhaodd Tsiecoslofacia yn dalaith lloeren Sofietaidd tan 1989 pan roddodd y Chwyldro Felfed ddiwedd heddychlon ar y gyfundrefn gomiwnyddol; gadawodd y milwyr Sofietaidd olaf y wlad yn 1991.
Ar ôl y goresgyniad, aeth Tsiecoslofacia i gyfnod a elwir yn normaleiddio, lle ceisiodd arweinwyr newydd adfer y gwerthoedd gwleidyddol ac economaidd a oedd wedi bodoli cyn i Dubček ennill rheolaeth ar y KSČ. Roedd Gustáv Husák, a ddisodlodd Dubček fel Prif Ysgrifennydd ac a ddaeth hefyd yn Llywydd, wedi gwrthdroi bron pob un o'r diwygiadau. Ysbrydolodd Gwanwyn Prag gerddoriaeth a llenyddiaeth newydd gan gynnwys gwaith Václav Havel, Karel Husa, Karel Kryl a nofel Milan Kundera Nesnesitelná lehkost bytí a droswyd i'r Saesneg dan y teitl The Unbearable Lightness of Being.