Math | gwastatir, rhanbarth |
---|---|
Enwyd ar ôl | gwastatir |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gogledd America |
Sir | Thomas County, Nebraska, De Dakota, Gogledd Dakota, Colorado, Iowa, Minnesota, Montana, Oklahoma, Mecsico Newydd, Texas, Wyoming, Alberta, Manitoba, Saskatchewan |
Gwlad | Unol Daleithiau America, Canada |
Y Gwastadeddau Mawr[1] yw'r ystod llydan o dir prairie a steppe sy'n gorwedd i'r dwyrain o Fynyddoedd y Rockies yn yr Unol Daleithiau a Canada. Mae'r rhanbarth yn cynnwys rhannau o daleithiau Colorado, Kansas, Montana, Nebraska, New Mexico, Gogledd Dakota, Oklahoma, De Dakota, Texas a Wyoming yn UDA, a thaleithiau Alberta, Manitoba a Saskatchewan yng Nghanada. Yng Nghanada arferir y term prairie i'w disgrifio, a chyfeirir at y rhan o'r Gwastadeddau sydd yn y wlad honno fel Taleithiau'r Prairie neu'r "Prairies".
Yn hanesyddol, roedd y Gwastadeddau Mawr yn gartref i sawl llwyth o frodorion Americanaidd, ac yn eu plith y Sioux, Blackfeet, Crow, Cheyenne, Arapaho, a'r Comanche. Yn y dwyrain ceid llwythau'n byw mewn pentrefi sefydlog, fel yr Arikara, Mandan, Pawnee a'r Wichita. Bu'n gartref i yrrau anferth o fyffalo yn ogystal. Pan ymledodd pobl gwyn i'r gorllewin troes y Gwastadeddau yn rhan o'r ardal "ar y ffin" lle roedd y Gorllewin Gwyllt yn dechrau. Ymladdwyd nifer o frwydrau yno rhwng y brodorion a byddin yr Unol Daleithiau. Heddiw mae'r byffalo wedi mynd, y rhan fwyaf o'r brodorion yn byw ar reservations, a'r tir yn cael ei gyfrif ymhlith "basgedi grawn" y byd.