Gwenllian ferch Gruffudd ap Cynan | |
---|---|
Ganwyd | 1097 Aberffraw |
Bu farw | 1136 Castell Cydweli |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Tad | Gruffudd ap Cynan |
Mam | Angharad ferch Owain |
Priod | Gruffudd ap Rhys, Cadwgan ap Bleddyn |
Plant | Rhys ap Gruffudd, Maredudd ap Gruffudd, Nest ferch Gruffydd ap Rhys, Gwladus ferch Gruffudd, Rhys Fychan ap Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr, Nn ap Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr, Owain ap Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr, Maredudd ap Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr Mawr |
Llinach | Llinach Dinefwr, Llys Aberffraw |
Merch Gruffudd ap Cynan a'i wraig Angharad ferch Owain, chwaer Owain Gwynedd a gwraig Gruffudd ap Rhys o Gaeo, tywysog y Deheubarth, oedd Gwenllian (bu farw 1136). Drwy ei phriodas â Gruffudd ap Rhys o Gaeo a hithau’n aelod o deulu Aberffraw roedd yn cyfuno llinach frenhinol y Deheubarth a Gwynedd. Daeth yn enwog yn hanes Cymru oherwydd ei hangerdd dewr yn erbyn ymosodiad y Normaniaid yn 1136. Lladdwyd hi yn y frwydr a ymladdwyd gerllaw Castell Cydweli ac mae’n enghraifft anghyffredin yn hanes Cymru’r Oesoedd Canol o fenyw yn dangos arweinyddiaeth mewn brwydr filwrol.
Mae’n aml yn cael ei phortreadu mewn dehongliadau celfyddydol ohoni fel arwres ddewr gyda’i chleddyf yn ei llaw neu’n teithio mewn cerbyd i mewn i frwydr, yn debyg i ddelwedd Buddug. Roedd y ddelwedd hon ohoni yn cyd-fynd â’r ymdrech lew a wnaeth i amddiffyn teyrnas y Deheubarth yn 1136.