Math o gyfrwng | model o gerbyd |
---|---|
Math | awyren-ofod, llongofod cludo pobl, llong ofod ailddefnyddiol, space shuttle |
Màs | 74,844 cilogram |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Rhan o | Rhaglen Gwenol y Gofod, taith i'r gofod, Gwennol Ofod |
Perchennog | NASA |
Yn cynnwys | Enterprise, Columbia, Challenger, Discovery, Atlantis, Endeavour |
Gweithredwr | NASA |
Gwneuthurwr | Rockwell International |
Hyd | 37.24 metr |
Hyd | 115,263,404 eiliad |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math o long ofod ydy gwennol y gofod neu wennol ofod sy'n medru dianc o ddisgyrchiant y Ddaear a dychwelyd yn ôl. Bathwyd y term Cymraeg, am y gair Saesneg space shuttle, gan Owain Owain.[1]
Mantais y Wennol Ofod o'i chymharu â rocedi lansio cynharach a fyddai yn disgyn i'r ddaear ac felly yn cael eu dinistrio ydy y gellid adennill prif rannau'r Wennol a'u hailddefnyddio. Gellid er enghraifft arbed y cylchynydd neu'r awyren ofod a'r atgyfnerthion roced. Mae nifer o wledydd a sefydliadau, gan gynnwys yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (European Space Agency), Gweriniaeth Pobl Tsieina a Japan wedi cynllunio gwenoliaid gofod, ond yr unig wledydd i lansio roced o'r fath yw'r Unol Daleithiau a Rwsia.