Ελληνική Δημοκρατία (Ellinikí Dimokratía) | |
Arwyddair | Rhyddid neu farwolaeth |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad |
Enwyd ar ôl | Groegiaid |
Prifddinas | Athen |
Poblogaeth | 10,482,487 |
Sefydlwyd |
|
Anthem | Emyn Rhyddid |
Pennaeth llywodraeth | Kyriakos Mitsotakis |
Cylchfa amser | UTC+2 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Groeg, Groeg y Werin, Groeg Modern |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd, Y Cenhedloedd Unedig, De Ewrop |
Arwynebedd | 131,957 km² |
Gerllaw | Y Môr Canoldir |
Yn ffinio gyda | Albania, Bwlgaria, Gogledd Macedonia, Twrci |
Cyfesurynnau | 38.5°N 23°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Gwlad Groeg |
Corff deddfwriaethol | Senedd Helenos |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Llywydd Gwlad Groeg |
Pennaeth y wladwriaeth | Katerina Sakellaropoulou |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Gwlad Groeg |
Pennaeth y Llywodraeth | Kyriakos Mitsotakis |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $214,874 million, $219,066 million |
Arian | Ewro |
Canran y diwaith | 18.5 canran |
Cyfartaledd plant | 1.3 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.887 |
Gweriniaeth yn ne-ddwyrain Ewrop yw'r Weriniaeth Helenaidd neu Gwlad Groeg. Gwledydd cyfagos yw Albania, Gogledd Macedonia, Bwlgaria a Thwrci. I'r gogledd mae'r Môr Egeaidd ac i'r de a'r dwyrain Môr Ionia a'r Môr Canoldir.
Ystyrir Groeg gan lawer fel crud diwylliant y Gorllewin a man geni democratiaeth, athroniaeth orllewinol, campau chwaraeon, llenyddiaeth orllewinol, gwleidyddiaeth a drama. Mae ganddi hanes hir a chyfoethog. Ymunodd â'r Undeb Ewropeaidd yn 1981 a chyflwynwyd yr ewro fel arian y wlad yn 2001.
Yn Olympia gwlad Groeg y cynhaliwyd y Gemau Olympaidd Gwreiddiol o 776 CC hyd 393 OC. Yn 2004 cynhaliwyd y Gêmau Olympaidd Modern yn Athen.