المملكة الأردنية الهاشمية Al-Mamlakah Al-Urdunnīyah Al-Hāshimīyah Teyrnas Hasimaidd Iorddonen | |
Arwyddair | Duw, Gwlad, Y Frenhiniaeth |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, brenhiniaeth gyfansoddiadol, gwlad |
Enwyd ar ôl | Afon Iorddonen |
Prifddinas | Amman |
Poblogaeth | 10,428,241 |
Sefydlwyd | 25 Mai 1946 oddi wrth Lloegr |
Anthem | Anthem Frenhinol Gwlad Iorddonen |
Pennaeth llywodraeth | Bisher Al-Khasawneh |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00, Asia/Amman |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Arabeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Dwyrain Canol, De-orllewin Asia, Y Byd Arabaidd, Asia |
Gwlad | Gwlad Iorddonen |
Arwynebedd | 89,341 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Israel, Sawdi Arabia, Syria, Irac, y Lan Orllewinol, Gwladwriaeth Palesteina |
Cyfesurynnau | 31.2°N 36.5°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Senedd Gwlad Iorddonen |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Brenin Gwlad Iorddonen |
Pennaeth y wladwriaeth | Abdullah II, brenin Iorddonen |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Gwlad Iorddonen |
Pennaeth y Llywodraeth | Bisher Al-Khasawneh |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $45,116 million, $47,451 million |
Arian | dinar (Iorddonen) |
Canran y diwaith | 11 ±1.1 canran |
Cyfartaledd plant | 3.422 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.72 |
Mae Gwlad Iorddonen neu'n syml yr Iorddonen (Arabeg لمملكة الأردنّيّة الهاشميّة Al-Mamlakah al-Urdunniyyah al-Hāšimiyyah) yn wlad Arabaidd sy'n ffinio ag Israel i'r gorllewin, Syria i'r gogledd, Irac i'r dwyrain a Sawdi Arabia i'r de-orllewin. Amman yw prifddinas y wlad. Mae'r wlad ar groesffordd bwysig rhwng Asia, Affrica ac Ewrop. Ei henw swyddogol yw "Teyrnas Hasimaidd Iorddonen".[1] Cafodd sofraniaeth y wlad ei chreu yn 1946 o ran o Balesteina Brydeinig.
Amgylchynir Gwlad yr Iorddonen gan wledydd eraill; mae ganddi arwynebedd o 89,342 km2 (34,495 sq mi) a phoblogaeth o 10,428,241 (19 Mehefin 2019)[2]. Hi, felly, yw'r 11eg gwlad mwyaf poblog allan o'r holl wledydd Arabaidd. Islam Sunni sy'n cael ei harfer gan 95% o'r boblogaeth, gyda lleiafrif bach iawn yn Gristnogion. Gelwir y wlad yn aml yn "Werddon o Sefydlogrwydd" oherwydd yr ansicrwydd a'r rhyfela yn y gwledydd o'i chwmpas a gododd yn dilyn y Gwanwyn Arabaidd.[3]
Ers 1948, mae'r Iorddonen wedi derbyn ffoaduriaid o wledydd cyfagos, o ganlyniad i wrthdaro a rhyfel. Yn 2015 amcangyfrifwyd fod 2.1 miliwn o Balesteiniaid ac 1.4 miliwn o Syriaid wedi ymgartrefu yn y wlad.[4] Mae yma hefyd filoedd o ffoaduriaid Cristnogol o Irac. Mae hyn i gyd yn rhoi wysau trwm iawn ar isadeiledd ac economi'r wlad.[5]