Math o gyfrwng | non-classical state of matter, deunydd, categori o gynhyrchion |
---|---|
Math | amorphous solid, solid, deunydd, defnydd adeiladu |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Solid di-ffurf anghrisialog yw gwydr sydd yn aml yn dryloyw a chanddo ddefnyddiau ymarferol, technolegol ac addurnol, er enghraifft cwareli ffenestri, llestri bwrdd ac opto-electroneg.
Y mathau hynaf a mwyaf gyffredin o wydr yw gwydrau silicad sydd ar sail silica (silicon deuocsid neu gwarts), sef prif gynhwysyn tywod. Dyma'r gwydr a ddefnyddir i gynhyrchu ffenestri a photeli, gan amlaf o'r math arbennig a elwir yn wydr soda-calch, sydd yn cynnwys rhyw 75% silicon deuocsid. sodiwm ocsid o sodiwm carbonad, calsiwm ocsid (calch), ac ychwanegion eraill.