Arfbais Hogwarts, sy'n cynrychioli'r pedwar Tŷ (yn glocwedd o'r dde, top: Slafennog, Crafangfran, Wfftipwff, a Lleureurol), gydag arwyddair yr ysgol, sy'n golygu "Paid byth â gogleisio draig sy'n cysgu".[1] | |
Awdur | J. K. Rowling |
---|---|
Gwlad | Y Deyrnas Unedig |
Math | Ffantasi, ffuglen oedolyn ifanc, dirgel, cyffrous, Bildungsroman, dod i oed |
Cyhoeddwr | Bloomsbury Publishing |
Dyddiad cyhoeddi | 29 Mehefin 1997 – 21 Gorffennaf 2007 |
Math o'r cyfryngau |
Print (clawr caled a chlawr papur) Awdiolyfr |
Cyfres o saith nofel ffantasi a ysgrifennwyd gan yr awdures Saesneg J. K. Rowling yw Harry Potter. Mae'r llyfrau yn croniclo anturiaethau dewin ifanc o'r enw Harri Potter a'i ffrindiau gorau: Ron Weasley ac Hermione Granger yn Ysgol Hudoliaeth a Dewiniaeth Hogwarts. Prif thema'r llyfrau yw cwest Harri i oresgyn y dewin drwg, tywyll, Lord Voldemort, sy'n benderfynol o ddarostwng pobl di-hud, gorchfygu'r byd hudol, a dinistrio pawb a phopeth sy'n ei rwystro rhag cyflawni hyn, yn enwedig yr arwr Harri Potter.
Ers 29 Mehefin 1997 pan ryddhawyd y nofel yn gyntaf, Harri Potter a Maen yr Athronydd (Saesneg gwreiddiol: Harry Potter and the Philosopher's Stone), mae'r llyfrau wedi ennill poblogrwydd anferthol, cymeradwyaeth gan y beirniaid a llwyddiant masnachol ledled y byd.[2] Mae'r gyfres hefyd wedi cael ei barnu, gan gynnwys pryder ynghylch y naws ddrwg gynyddol. Ers Mehefin 2011, mae'r gyfres lyfrau wedi gwerthu tua 450 miliwn o gopïau, yn ogystal â chael ei chyfieithu i 67 iaith,[3][4] gan gynnwys y Gymraeg.
Mae'r gyfres yn cynnwys llawer o genres, gan gynnwys ffantasi a dod i oed (gydag elfennau o ddirgelwch, cyffro a rhamant), ac mae llawer o gyfeiriadau ac ystyron diwylliannol ynddi.[5][6][7][8] Yn ôl Rowling, prif thema'r llyfrau ydy marwolaeth,[9] ond ystyria'r gyfres fel gwaith llenyddiaeth i blant. Ceir themâu eraill yn y gyfres, megis cariad a rhagfarn.[10]
Prif gyhoeddwr y llyfrau gwreiddiol Saesneg yng ngwledydd Prydain oedd Bloomsbury ond cyhoeddwyd y llyfrau gan wahanol gyhoeddwyr ledled y byd erbyn hyn. Addaswyd y gyfres i gynhyrchu wyth ffilm gan Warner Bros. Pictures, gyda rhannu'r seithfed llyfr yn ddwy ffilm; hi yw'r gyfres ffilmiau crynswth mwyaf yn hanes y byd ffilmiau. Mae llawer o nwyddau yn sgil y ffilmiau hefyd, sy'n werth mwy na $15 billion.[11]