Iaith Germanaidd gogleddol yw Hen Norseg a siaredid yn Llychlyn a gwladfeydd y Llychlynwyr ar draws arfordiroedd gogledd Ewrop, Ynysoedd Prydain ac Iwerddon, ac ar lannau afonydd dwyrain Ewrop o'r 8g i ganol y 14g. Dyma iaith lenyddol y sagâu a genid yng Ngwlad yr Iâ, a thraddodiadau hengerdd y skald a'r eda.
Trawsnewidiodd Cyn-Norseg yn Hen Norseg erbyn y 8g. Arhosai Hen Norseg yn hynod o sefydlog yn y cyfnod 1150–1350, cyn iddo ddatblygu yn ffurfiau cynnar ar yr ieithoedd Germanaidd gogleddol modern yn niwedd y 14g. Rhennir Hen Norseg yn dair tafodiaith: Hen Norseg y gorllewin, a ddatblygodd yn Hen Islandeg, Hen Norwyeg a Norseg yr Ynys Las; Hen Norseg y dwyrain, a ddatblygodd yn Hen Ddaneg a Hen Swedeg; ac Hen Gutlandeg, a ddatblygodd yn Gutlandeg. Hen Norseg yw iaith gysefin yr ieithoedd Islandeg, Ffaröeg, Norwyeg, Daneg, a Swedeg, a'r ieithoedd meirw Norn a Norseg yr Ynys Las.[2]