Cred neu athrawiaeth grefyddol sy'n groes i ddysgeidiaeth uniongred neu'r drefn sefydledig yw heresi (hefyd geugred, cam-gred).[1] Yn ystod oesoedd cynnar Cristnogaeth, roedd yn rhaid i'r Eglwys ymdrin â sawl dadl a elwir yn heresïau: Ariaeth, Docetiaeth, Gnostigiaeth, Mabwysiadaeth, Montaniaeth, Pelagiaeth a Sabeliaeth. Ynghyd â gwrthgiliad (apostasi) a chabledd, heresi oedd un o'r prif droseddau yn erbyn y ffydd Gristnogol.