Iaith Indo-Ewropeaidd farw a siaradwyd gan yr Hethiaid, un o bobloedd hynafol Anatolia, yw'r Hetheg. Perthyna i'r ieithoedd Anatolaidd ac felly mae'n debyg i Garieg, Lweg, Lydieg, Lycieg, a Phalaieg. Gwyddys manylion yr iaith o ddiolch i ryw 30,000 o lechi ysgrifen gynffurf a gedwir yn Hattusa, prifddinas yr Hethiaid (heddiw ger Boğazkale yn Nhwrci), a chanolfannau eraill. Dyddia'r mwyafrif ohonynt o gyfnod Ymerodraeth yr Hethiaid (tua 1400–1180 CC).[1]