Hurfilwr

Hurfilwr
Enghraifft o'r canlynolgalwedigaeth Edit this on Wikidata
Mathgwron Edit this on Wikidata
Rhan osefydliad hurfilwyr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Milwr proffesiynol sy'n gwasanaethu mewn llu arfog gwlad estron am gyflog yw hurfilwr.[1] Ers y rhyfeloedd cynharaf defnyddiodd lywodraethau hurfilwyr i ychwanegu at eu lluoedd. Roedd y rhain yn aml yn fyddinoedd preifat ac yn barhaol i raddau. Gostyngodd y galw am filwyr tâl yn sgil datblygiad y fyddin sefydlog yng nghanol yr 17g. Yn yr oes fodern, cyn-filwyr unigol sy'n dewis brwydro am arian ac antur yw'r mwyafrif o hurfilwyr.

Gwrthodir y label gan nifer o gwmnïau milwrol preifat, ac fel arfer ni ddefnyddir i ddisgrifio unedau sy'n recriwtio tramorwyr yn swyddogol, megis Lleng Dramor Ffrainc, Lleng Dramor Sbaen a Brigâd y Gyrcas.[2]

  1.  hurfilwr. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 9 Mehefin 2016.
  2. Richard Bowyer. Dictionary of Military Terms, 3ydd argraffiad (Llundain, Bloomsbury, 2004), t. 156.

Hurfilwr

Dodaje.pl - Ogłoszenia lokalne